Cylch yr Abaty 1920

Eich cefnogaeth. Ein diolch i chi. 

Mae'ch cefnogaeth chi yn hynod bwysig i'r Brifysgol, ac rydym wrth ein boddau'n cydnabod hynny drwy eich gwahodd i ymuno â Chylch yr Abaty 1920. Mae'r Cylch yn cydnabod y rhai sy'n gwneud y penderfyniad ysbrydoledig i gofio'r Brifysgol yn eu hewyllys. 

Mae Cylch yr Abaty 1920, sy'n cyfeirio at Abaty Singleton ar gampws Singleton y Brifysgol, yn adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol y Brifysgol sy'n dyddio'n ôl i 1920 pan gafodd ei sefydlu gyntaf. Yn ystod y 19eg ganrif, daeth Abertawe'n brif ganolfan diwydiant a masnach, ei phorthladd yn ddrws i'r byd. Daeth yr Abaty'n rhan o Prifysgol Abertawe yn ystod y 1920au ac dyma un o ddau adeilad parhaol yn unig i sefyll ar y campws yn ystod y 1940au. Mae'r Abaty'n adlewyrchu twf a datblygiad y Brifysgol dros y blynyddoedd i fod yn gampws deuol ac yn sefydliad amlddisgyblaethol.