Cylch Y Canghellor

Bydd 2020 yn nodi 100 mlynedd o ysbrydoli ac arloesi ym Mhrifysgol Abertawe wrth i ni ddathlu canmlwyddiant y Brifysgol. Hoffem gynnwys pob un o'n cyn-fyfyrwyr mewn cynlluniau uchelgeisiol i adeiladu ar lwyddiant y can mlynedd diwethaf.

Ers sefydlu'r Brifysgol ym 1920 gydag 89 o fyfyrwyr, mae wedi tyfu'n brifysgol â dau gampws sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil amlddisgyblaethol. O ymchwilwyr chwyldroadol i arweinwyr â gweledigaeth, bydd rhagoriaeth myfyrwyr presennol, cyn-fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe yn parhau i wneud cyfraniadau gwerthfawr at gyflawni canlyniadau mwy iach, mwy cynaliadwy a mwy llwyddiannus yn fyd-eang.

"Mae'r ymrwymiad parhaus i ddatblygu a gwella Prifysgol Abertawe yn dangos ein hyder yn y dyfodol a'r addewid i ddarparu amgylchedd academaidd a phrofiad myfyrwyr o'r radd flaenaf.

Mae ein cymuned yn cynnwys y myfyrwyr mwyaf disglair sy'n cael effaith sylweddol ar yr economi, ein cymdeithas ac ar iechyd yng Nghymru a'r tu hwnt.

Mewn cyfnod ansicr a byd wedi'i globaleiddio, mae'n bwysicach nag erioed bod Prifysgol Abertawe yn parhau i drawsnewid bywydau a dyfodol pobl drwy gynnig addysg ragorol a hwyluso gwaith ymchwil o safon fyd-eang.

EIN DIOLCH I CHI

Mae Cylch y Canghellor yn cydnabod y rhai sy'n rhoi o leiaf £5,000 y flwyddyn.

I ddiolch ichi am eich rhodd, byddwn yn anfon newyddion rheolaidd, yn eich gwahodd i ddigwyddiad blynyddol ac i ginio arbennig gyda'r Canghellor a chyda'ch caniatâd, byddwn yn arddangos eich enw ar Wal Goffáu'r Brifysgol.

Bydd eich rhodd yn cefnogi ein cenhadaeth i ddarparu can mlynedd arall o ysbrydoliaeth ac arloesedd.