Cefnogi chwaraeon yn Abertawe

Cefnogi'r genhedlaeth nesaf o sêr chwaraeon

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu mynediad i’n cyfleusterau addysgu a chwaraeon o’r radd flaenaf i’r myfyrwyr-athletwyr mwyaf dawnus, waeth beth yw eu hamgylchiadau. Caiff ysgoloriaethau chwaraeon eu dyfarnu i fyfyrwyr sy’n gallu dangos rhagoriaeth mewn chwaraeon, er mwyn eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial chwaraeon ac academaidd.

Ein nod, drwy Gronfa Abertawe, yw codi digon o arian bob blwyddyn i ddyfarnu nifer o ysgoloriaethau ychwanegol, gwella cyfleusterau a chefnogi clybiau chwaraeon ar draws y Brifysgol.

Diolch i chi am gefnogi uchelgais Abertawe i gynnig profiad chwaraeon o’r radd flaenaf.

EIN HYSGOLHEIGION

Tennessee Randall

TENNESSEE RANDALL

Mae Tennessee Randall, Pencampwr Cicfocsio Ewropeaidd ac enillydd Pencampwriaeth y Byd, yn enghraifft amlwg o’r doniau rhagorol sydd gennym yng Nghymru.  Mae galluoedd ymladd y seren chwaraeon ifanc a dawnus hon yn werth eu pwysau mewn aur ac mae hi’n haeddu sylw am ei chyfres o fuddugoliaethau ledled y byd. Myfyriwr Meistr Seicoleg a deiliad ysgoloriaeth chwaraeon uchel ei pharch, rydym yn falch o fod wedi dyfarnu un o’n hysgoloriaethau chwaraeon dethol i chwaraewraig mor arobryn, ddiwyd ac ysbrydoledig. ... Darllenwch fwy

Harri Doel

HARRI DOEL

Chwaraewr rygbi brwdfrydig a dirodres o dref dawel Llanymddyfri, mae ei bresenoldeb ar y cae yn bell o fod yn dawel. O oedran ifanc, mae dawn Harri am hoff gêm y genedl wedi cael ei chydnabod yn eang. Mae’r myfyriwr Mathemateg israddedig penderfynol hwn yn cyfrifo ei gam nesaf ar y llwybr i lefel uchaf rygbi Cymru. Bellach ar fin dechrau ei bumed flwyddyn olynol yn Academi’r Scarlets, mae Harri wedi dechrau nifer o weithiau i’r tîm cyntaf a chafodd ei ddewis am garfan dan 20 oed Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. ... Darllenwch fwy.

Rhian

RHIAN EVANS

Mae Rhian wedi ymuno â rheng flaen doniau chwaraeon gorau Cymru’n gyflym. Oherwydd ei dyfalbarhad diwyro a’i gallu, cafodd Rhian ei chydnabod yn un o athletwyr elît Prifysgol Abertawe.

Pan oedd Rhian Evans yn wyth mlwydd oed yn unig, byddai ei mam-gu yn mynd â hi bob dydd Sadwrn i chwarae pêl-rwyd. Wrth i’w chariad at y gamp dyfu, felly ei dawn, a phan oedd hi’n 14 oed yn unig, cynrychiolydd Rhian Gymru am y tro cyntaf yn aelod o dîm pêl-rwyd dan 17 oed Cymru. Yn ystod y tair blynedd hyn, sicrhawyd dylanwad Rhian yng Nghymru, a hi oedd capten y tîm a enillodd fuddugoliaeth i Gymru yn erbyn Gogledd Iwerddon. ...  Darllenwch Fwy

Dan Sheehan

DAN SHEEHAN

Yn debyg i lawer o fechgyn ifanc, roedd sylw Dan Sheehan wedi’i hoelio ar y ‘gêm hyfryd’ ers iddo ddysgu cerdded ond, yn wahanol i lawer o’i gyfoedion, roedd y sgowtiaid yn talu sylw iddo yntau yn fuan. Felly, er iddo ddechrau ei bêl-droed ar strydoedd Abertawe, yn fuan iawn roedd ar y llwybr i amgylchedd pêl-droed proffesiynol gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Mae Dan yn un o’n hysgolheigion chwaraeon mwyaf gwerthfawr a’n harweinwyr mwyaf sefydledig yn Academi Pêl-droed Prifysgol Abertawe. Yn hyfforddwr pêl-droed a chryfder a chyflyru, mae’n fodel rôl uchel ei barch i’r rhai o’i gwmpas... Darllenwch fwy.