rhian evans
rhian evans

‘Chwaraewraig y Flwyddyn Prifysgol Abertawe, arweinydd ar y cae chwaraeon ac oddi arno’

Pan oedd Rhian Evans yn wyth mlwydd oed yn unig, byddai ei mam-gu yn mynd â hi bob dydd Sadwrn i chwarae pêl-rwyd. Wrth i’w chariad at y gamp dyfu, felly ei dawn, a phan oedd hi’n 14 oed yn unig, cynrychiolydd Rhian Gymru am y tro cyntaf yn aelod o’r tîm dan 17 oed. Yn ystod y tair blynedd hyn, sicrhawyd dylanwad Rhian yng Nghymru, a hi oedd capten y tîm a enillodd fuddugoliaeth i Gymru yn erbyn Gogledd Iwerddon.

Ers y garreg filltir gynnar hon, mae Rhian wedi datblygu’n gyflym yn un o sêr chwaraeon gorau Cymru, gan dderbyn ei chap cyntaf ar gyfer tîm dan 21 oed Cymru pan oedd hi’n 17 oed ac, ym mis Ionawr eleni, ymunodd â charfan hŷn y Dreigiau Celtaidd – eu chwaraewr ieuengaf erioed.  Oherwydd ei dyfalbarhad diwyro a’i gallu, cafodd Rhian ei chydnabod yn un o athletwyr elît Prifysgol Abertawe.

Dyfarnwyd y teitl ‘Chwaraewraig y Flwyddyn Prifysgol Abertawe’ i’r chwaraewraig uchel ei pharch hon yng Ngwobrau Chwaraeon Prifysgol Abertawe 2019.  “Roeddwn i’n teimlo bod yr holl hyfforddiant, yr holl aberthau wedi bod yn werth eu gwneud.”

“Mae pêl-rwyd yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad i mi yn bendant; mae wedi fy helpu i wella fy sgiliau a sicrhau fy mod i’n cyflawni fy nodau drwy roi fy agwedd ar y cwrt pêl-rwyd ar waith yn fy mywyd pob dydd. Mae fy ysgoloriaeth chwaraeon wedi chwarae rôl fawr yn fy mywyd, yn enwedig ar yr ochr ariannol. Gan fy mod i’n hyfforddi chwe gwaith yr wythnos, dwi wedi defnyddio’r arian i brynu ’sgidiau ansawdd uchel hanfodol a thuag at gostau teithio rhwng sesiynau hyfforddi felly dwi byth ar fy ngholled. Mae Tîm Chwaraeon Abertawe wedi bod yn gefnogol iawn hefyd, felly does dim rhaid i mi boeni am wrthdaro rhwng gemau ac ymrwymiadau astudio.”

Er ei bod ym mlwyddyn gyntaf yn unig ei gradd Chwaraeon ac Ymarfer Corff, mae profiad Rhian ar y cwrt wedi cael effaith galonogol ers iddi ddechrau ei hastudiaethau ym mis Medi. A hithau wedi chwarae ym mhob gêm gynghrair ar gyfer tîm pêl-rwyd y Brifysgol y tymor hwn, mae Rhian wedi bod yn rhan hanfodol o lwyddiant y tîm i gael ei ddyrchafu’n gynnar eleni a’i fuddugoliaeth ddiweddar yn rownd derfynol y cwpan yn erbyn Plymouth.

“Dwi wedi cael cynifer o gyfleoedd ers dod i’r Brifysgol, o ddechrau cyn y tymor i ennill y cwpan nes ymlaen, dwi wedi gwneud llwyth o ffrindiau newydd.”

Mae Rhian yn amlygu pwysigrwydd chwaraeon, nid yn unig yn ei datblygiad proffesiynol, ond fel rhan hanfodol o les ac iechyd meddwl. “Pan dwi’n codi i hyfforddi’n gynnar yn y bore, dyw hynny ddim yn teimlo fel baich, dwi’n edrych ymlaen at hyfforddi.

Mae pawb yn yr amgylchedd hwnnw mor gadarnhaol ac mae hynny’n rhoi hwb i chi.” Er mai pêl-rwyd yn ddiamau yw ei phrif gamp, mae doniau uwch Rhian yn cynnwys amrywiaeth o feysydd eraill ac mae hi wedi chwarae criced i Gymru hefyd, ym mhob grŵp oedran, gan gynnwys y tîm hŷn, a chynrychiolodd Gymru mewn athletau (taflu’r ddisgen a thaflu’r pwysau dan 17 oed).

Mae’n siŵr bod llawer o lwyddiannau o’i blaen hi, ond gofynnom i Rhian beth oedd uchafbwynt mwyaf cofiadwy ei gyrfa gynnar hyd yn hyn: “Chwarae i’r Dreigiau Celtaidd – roedden ni’n chwarae yn erbyn Manchester Thunder, sef clwb gorau’r Deyrnas Unedig, felly roeddwn i’n falch iawn o gael cyfle i’w hwynebu nhw. Llwyddais i sgorio ychydig o goliau hefyd er i ni golli’r gêm, ond carfan ifanc ydyn ni felly mae digon o amser gyda ni i wella a dwi’n gwybod bod ni’n gallu gwneud hynny.”

Mae Rhian yn dyst i ganlyniad dyfalbarhad ac ymroddiad ym mhopeth mae’n ei wneud. Ei huchelgais yw chwarae yng Nghwpan Ieuenctid y Byd yn Fiji yr haf nesaf, a does dim nod yn amhosib ei gyrraedd i’r athletwr arobryn ifanc hwn.

Mae Prifysgol Abertawe’n falch iawn o chwarae rhan fach yn yr hyn a fydd yn ddiamau’n ddyfodol disglair i Rhian Evans.