harri doel
harri doel
harri doel

‘Gwthio terfynau rhagoriaeth chwaraeon’


Dyn rygbi brwdfrydig a diymhongar o dref dawel yng Nghymru, Llanymddyfri, y mae ei bresenoldeb ar y cae ymhell o fod yn dawel.
O oed cynnar, roedd gallu Harri Doel am hoff gêm y genedl wedi’i gydnabod yn dda. Mae’r myfyriwr Mathemateg israddedig pengaled hwn yn meddwl am ddatblygu ei yrfa drwy symud i haen uchaf rygbi Cymru. Mae Harri wedi bod yn chwarae i’w dîm lleol ‘Llandovery Drovers’ ers yn ifanc iawn, a heddiw mae Harri yn symud i’r bumed flwyddyn yn olynol gydag Academi’r Scarlets, gan ddechrau nifer o gemau ar gyfer y prif dîm a chafodd ei ddewis ar gyfer carfan chwe gwlad Cymru dan 20 oed.

“Rwy’n dwlu ar chwarae rygbi, mae mor syml â hynny. Rwyf wedi bod yn chwarae ers yn 7 oed ac nid wyf wedi edrych yn ôl ers hynny.”

Ar ôl cael ei gydnabod fel dawn chwaraeon o’r radd flaenaf, mae Harri yn un o’r bobl sy’n derbyn ysgoloriaeth chwaraeon Prifysgol Abertawe. “Mae wir wedi fy helpu i, rwy’n hyfforddi gyda’r Scarlets bob dydd ac yn treulio tua 17 awr yr wythnos mewn darlithoedd. Mae’r ysgoloriaeth yn fy nghefnogi gyda gwaith, hyfforddiant ac yn sicrhau y gallaf weithio’n effeithiol. Mae’r cyfleusterau sydd ar gael i mi ar y ddau gampws yn gwneud y broses yn llawer haws i mi”.

Ar ôl bod yn rhan o sawl gêm gynghrair fuddugoliaethus ar gyfer tîm y Brifysgol, ynghyd â chymryd rhan yn ornest flynyddol y Prifysgolion ‘Farsity’, mae etheg waith Harri ar y cae ac oddi arno’n cynrychioli ei gariad at y gêm a’r aberth y mae mabolgampwyr sy’n fyfyrwyr fel Harri yn ei wneud i sicrhau ei fod yn parhau ar frig y gêm.
Gydag iechyd meddwl yn bresenoldeb cynyddol yn ein cymdeithas, mae Harri yn myfyrio ar bwysigrwydd chwaraeon yn ei fywyd, ei ddylanwad llawn ysbrydoliaeth ac anogaeth y ffocws. Nid yr ysgogiad yw’r unig brawf o gariad at y gamp ond hefyd bresenoldeb rygbi yn nheulu agosaf Harri.

Pan ofynnwyd iddo am ei atgofion cynharaf mewn chwaraeon, mae’n dyddio’n ôl i chwarae rygbi tag ar gae Parc y Strade yn stadiwm y Scarlets pan oedd yn ifanc iawn. Mae ei sgil a’i ddatblygiad yn rygbi wedi’i gynnwys mewn llawer o gemau gwych i garfan Cymru dan 18 oed, gan gynnwys taith i Dde Affrica, lle collodd Cymru o drwch blewyn yn erbyn y springboks ond curwyd Lloegr yr hen elyn, a dyna beth sy’n bwysig. Er ei fod wedi cael ei ddewis i chwarae rhai gêmau dan 19 oed i Gymru, cafodd Harri ei ddewis i ddechrau’r gêm fuddugoliaethus yn erbyn Japan.

Gall Harri edrych ymlaen at yrfa addawol heb amheuaeth gyda rygbi Cymru, ac mae’n fraint gennym ei gefnogi ar ei daith fel un o ysgolheigion Prifysgol Abertawe.