tennessee
tennessee 2
tennessee 3

‘Tyst i ganlyniad gwaith caled parhaus, ymroddiad a gwir angerdd am chwaraeon.’

Mae Tennessee Randall, Pencampwr Cicfocsio Ewropeaidd ac enillydd Pencampwriaeth y Byd, yn enghraifft amlwg o’r doniau rhagorol sydd gennym yng Nghymru.  Mae galluoedd ymladd y seren chwaraeon ifanc a dawnus hon yn werth eu pwysau mewn aur ac mae hi’n haeddu sylw am ei chyfres o fuddugoliaethau ledled y byd. Cawsom sgwrs â Tennessee, sy’n astudio am radd PhD mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe i ofyn beth sydd ar y gorwel.

“Mae Chwaraeon wastad wedi bod yn rhan enfawr o’m bywyd”

 Mae ganddi 15 mlynedd o brofiad yn y gamp ar ôl cael cyflwyniad i gicfocsio pan oedd hi’n saith oed, ochr yn ochr â’i chwaer yn y ganolfan hamdden leol yn Llanelli.  Drwy waith caled a dyfalbarhad, ni chymerodd Tennessee amser hir i greu argraff ac aeth ymlaen i ennill Pencampwriaeth y Byd i ymladdwyr iau.  Ar ôl ymuno â rhengoedd yr ymladdwyr hŷn, enillodd Tennessee fedal efydd ym Mhencampwriaethau’r Byd a’r wobr arian yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd.  Heddiw, Tennessee yw Pencampwr Cicfocsio’r Byd yn sgil ennill ei medal aur yn Nhwrci yn 2019.  Disgrifiwyd y gamp wych hon fel ei “nod pennaf am y pum mlynedd diwethaf”. Bydd Tennessee hefyd yn amddiffyn ei theitl Ewropeaidd yn nes ymlaen eleni ar ôl ennill medal aur yn Slofenia yn 2018.  Os bydd hi ymhlith yr enillwyr medal yn y gystadleuaeth hon, bydd Tennessee yn cymhwyso am Gemau Ymladd y Byd a gynhelir yn Kazakhstan yn 2021.

“Mae hi wedi cymryd tair blynedd o waith caled ond roedd yn werth ei wneud yn bendant.”

“Mae’r ysgoloriaeth chwaraeon wedi bod yn help enfawr. Mae derbyn arian at gostau teithio a digwyddiadau rheolaidd yn rhyddhad mawr i mi. Mae’n wir,  pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth, fel aelodaeth o’r gampfa, yr hawlen barcio a gweithdai maeth am ddim; y mynediad i gyfleusterau a’r cymorth fyddech chi ddim yn eu cael fel arall.  Ar ben hyn, mae gen i hyblygrwydd i estyn dyddiadau cau fy ngwaith yn y brifysgol i osgoi gwrthdaro â chystadlaethau, sy’n rhywbeth gwerthfawr dros ben i mi am ei bod hi’n golygu nad oes dim byd yn dioddef.”

Er gwaethaf y cymorth mae Tennessee yn ei dderbyn drwy ei hysgoloriaeth, ni all gymharu â’r rhwydwaith teulu anhygoel sy’n ei hamgylchynu, sef yr hyfforddiant mae’n ei dderbyn gan ei thad. “Fe sydd wedi fy hyfforddi ers y dechrau, mae’n gwybod beth sy’n fy ysgogi ac mae’n hyfforddwr gwych, felly rydyn ni’n gweithio’n dda gyda’n gilydd.  Rydyn ni’n cynnal ein clwb gyda’n gilydd, yn addysgu cicfocsio, ac mae mam-gu a thad-gu yn gwneud eu rhan hefyd, felly menter deuluol go iawn yw hi.”

Mae ei disgyblaeth a’i hagwedd ragorol at waith yn ddigon i ysbrydoli unrhyw chwaraewraig ifanc sy’n ymdrechu i fod ar y brig yn ei maes. Nid yw’r ffordd i lwyddiant yn hawdd ac mae’n gofyn am aberthau hefyd.  Mae Tennessee yn dweud mai gwrthod cacennau ei mam-gu – sy’n seren yn y gegin – wrth baratoi am gystadleuaeth yw’r her anoddaf. “Na, fam-gu ewch â nhw oddi yma”. Mae hi’n llwyddo’n eithriadol i gydbwyso’r heriau dyddiol o hyfforddiant dwys, maeth, astudiaethau a bywyd cymdeithasol. Pan ofynnir iddi am ei chyngor i fenywod sy’n ystyried rhoi cynnig ar y gamp, mae Tennessee yn esbonio: “Gyda chicfocsio, does dim angen i chi fod yn ymladdwr, mae’n datblygu llwyth o sgiliau bywyd eraill fel dyfalbarhad, disgyblaeth a hyder yn bendant.”

Mae Prifysgol Abertawe’n falch o fod wedi dyfarnu un o’n hysgoloriaethau chwaraeon dethol  i chwaraewraig mor arobryn, ddiwyd ac ysbrydoledig. Dymunwn bob llwyddiant i Tennessee a gobeithiwn y bydd myfyrwyr-athletwyr ledled Cymru a’r byd yn dilyn ei hesiampl.