Dan Sheehan in swansea city fc kit
Dan sheehan in swansea uni
Dan sheehan in australia

‘Disgleirio o dan y Llifoleuadau’

Yn debyg i lawer o fechgyn ifanc, roedd sylw Dan Sheehan wedi’i hoelio ar y ‘gêm hyfryd’ ers iddo ddysgu cerdded ond, yn wahanol i lawer o’i gyfoedion, roedd y sgowtiaid yn talu sylw iddo yntau yn fuan. Felly, er iddo ddechrau ei bêl-droed ar strydoedd Abertawe, yn fuan iawn roedd ar y llwybr i fyd pêl-droed proffesiynol.

“Roeddwn i wedi breuddwydio am weithio mewn chwaraeon elît ers pan oeddwn i’n ifanc”

Yn dilyn dwy flynedd yn yr academi ieuenctid, cafodd Dan ei ddewis gan y Rheolwr, Roberto Martinez, i gael contract proffesiynol un flwyddyn gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe, profiad a fyddai’n freuddwyd yn unig i’r rhan fwyaf o chwaraewyr ifanc, ond gwireddwyd breuddwyd Dan oherwydd ei ddawn. “Roedd yn wych bod yng nghwmni athletwyr elît am flwyddyn gyfan, roedd yn anhygoel.”

Ar ôl iddo orffen ei gontract pan oedd yn 21 oed, aeth taith pêl-droed Dan ag ef i ochr arall y byd ac, o ganlyniad i addysgu a hyfforddi yn Abertawe, cafodd Dan gyfle i roi ei broffesiynoliaeth a’i allu technegol ar waith yn chwarae’n lled-broffesiynol i glwb Awstralaidd, Moreland FC. Felly, tra bydd llawer o bobl sy’n breuddwydio am yrfa broffesiynol mewn pêl-droed yn aros ar y fainc, mae mentergarwch Dan i gyflawni ei nodau’n dyst i’w waith caled a’i ddyfalbarhad i’w wella ei hun a’r rhai o’i gwmpas. Ar ôl dychwelyd i bêl-droed yn Abertawe, dechreuodd hyfforddi â’r nod o fod yn hyfforddwr personol. “Dwi bob amser yn chwilio am y peth nesaf dwi am ei wneud, i fod yn well ac i wella fy sefyllfa, ond mae fy meddwl yn gallu rasio ymlaen gan adael i mi deimlo ar goll. Ond pêl-droed sy’n fy nghadw i fynd ac yn wynebu’r ffordd o’m blaen.”

Bellach yn 29 oed, mae Dan yn un o’n hysgolheigion chwaraeon mwyaf gwerthfawr a’n harweinwyr mwyaf sefydledig yn Academi Pêl-droed Prifysgol Abertawe. Yn hyfforddwr pêl-droed a chryfder a chyflyru, mae’n fodel rôl uchel ei barch i’r rhai o’i gwmpas. “Ar hyn o bryd, dwi’n gweithio mewn rôl dwi eisiau bod yn rhan ohoni am weddill fy mywyd. Felly, mae’n rhoi cyfle i mi ddefnyddio’r sgiliau dwi’n eu dysgu ar fy nghwrs ac astudio am fy ngradd ar yr un pryd.

“Roedd fy ysgoloriaeth yn ffactor enfawr wrth benderfynu dod i’r brifysgol. I bobl fel fi ag ymrwymiadau chwaraeon sy’n gallu gwrthdaro â’ch astudiaethau, mae’n lleihau’r pwysau ac yn caniatáu i chi ganolbwyntio ar eich blaenoriaethau. Mae’r cyfle i barcio a defnyddio’r cyfleusterau ar y ddau gampws yn help mawr yn fy ngwaith ac wrth hyfforddi.”

Mae chwaraeon tîm sy’n annog cydweithredu yn gallu uno pobl o bob oedran a rhannodd Dan ei brofiad o ddechrau’r brifysgol fel myfyriwr hŷn. “Mae pêl-droed wedi rhoi cyfle i mi feithrin cysylltiadau agosach â phobl, mae wedi fy helpu’n fawr i integreiddio achos y gêm oedd fy nhir cyffredin, felly er fy mod i’n gwybod bod hynny’n ystrydeb, dwi wedi gwneud ffrindiau am oes.”

Bonheddwr go iawn y byddai ei gariad at y gêm yn ysbrydoli ac yn rhoi hwb i ddatblygiad unrhyw chwaraewr sydd am ddilyn ei ôl traed a dringo ysgol pêl-droed proffesiynol. Pan ofynnwyd iddo fyfyrio ar yr adegau yn ei yrfa pêl-droed sydd wedi rhoi’r balchder mwyaf iddo, rhannodd Dan atgof arbennig am chwarae i dîm bechgyn dan 15 oed Abertawe yn rownd derfynol cwpan yn Anfield “Roedd yn anhygoel, awyrgylch mor wych.”

Yn y dyfodol, does gennym ddim amheuaeth na fydd Dan yn gweithio ac yn arwain datblygiad athletwyr dawnus. Mae’n fraint gan Brifysgol Abertawe chwarae rhan fach i gefnogi Dan ar ei lwybr i lwyddiant.