Creative Commons

Mae holl ddeunyddiau DRAGON-S/DRAGON+ a gyhoeddwyd ar y wefan hon wedi'u trwyddedu o dan CC-BY Trwydded Ryngwladol 4.0 Creative Commons Attribution.

Golyga hyn fod yn rhaid i chi ddyfynnu unrhyw waith sydd ar gael ar y wefan hon yn briodol ac yn glir, mewn ffordd sy'n cydnabod yr awdur(on) gwreiddiol a Phrosiect DRAGON-S/DRAGON-S+ S fel cyhoeddwr, ond nid mewn unrhyw ffordd sy'n awgrymu bod awdur(on) neu brosiect DRAGON-S/DRAGON+ (trwyddedwr) yn cymeradwyo chi neu'ch defnydd ohonynt.

Rhaid i chi roi cydnabyddiaeth briodol a darparu dolen i'r drwydded ac os gwnaed newidiadau, rhaid i chi nodi hynny. Gallwch wneud hyn mewn unrhyw ffordd resymol, ond nid mewn ffordd sy'n awgrymu bod y trwyddedwr yn eich cymeradwyo chi neu'ch defnydd.

Cewch wneud y canlynol:

  • Rhannu — copïo ac ailddosbarthu'r deunydd mewn unrhyw gyfrwng neu fformat
  • Addasu — ailgymysgu, trawsnewid ac adeiladu ar y deunydd
  • at unrhyw ddiben, hyd yn oed yn fasnachol. Ni all y trwyddedwr dynnu'r rhyddid hwn yn ôl cyhyd â'ch bod chi'n dilyn telerau'r drwydded.

O dan y telerau canlynol:

  • Priodoli — rhaid i chi roi cydnabyddiaeth briodol, darparu dolen i'r drwydded ac os gwnaed newidiadau, rhaid i chi nodi hynny. Gallwch wneud hyn mewn unrhyw ffordd resymol, ond nid mewn ffordd sy'n awgrymu bod y trwyddedwr yn eich cymeradwyo chi neu'ch defnydd.
  • Dim cyfyngiadau ychwanegol — ni chewch roi telerau cyfreithiol neu fesurau technolegol ar waith sy'n gosod cyfyngiad cyfreithiol ar eraill gan eu rhwystro rhag gwneud rhywbeth a ganiateir gan y drwydded.

Hysbysiadau:

  • Nid oes rhaid i chi gydymffurfio â'r drwydded o ran elfennau yn y deunydd sydd ar gael yn gyhoeddus, neu le mae eich defnydd wedi'i ganiatáu gan eithriad neu gyfyngiad cymwys.
  • Ni roddir gwarantau. Efallai na fydd y drwydded yn rhoi pob caniatâd angenrheidiol ar gyfer eich defnydd arfaethedig. Er enghraifft, gall hawliau eraill, megis cyhoeddusrwydd, preifatrwydd, neu hawliau moesol gyfyngu ar sut rydych yn defnyddio'r deunydd.

Mae trwydded CC BY prosiect DRAGON-S/DRAGON+ ar gael yn llawn yma.