Dragon+ (Developing Resistance Against Grooming Online: Stories Strengthened Safeguards) yw’r prosiect a ariennir yn gydweithredol rhwng End Violence Against Children a'r Tech Coalition 2023-24 i gynnal gwaith ymchwil i ddeinameg ryngweithiol rhwng troseddwyr a phlant ac adrodd amdani, gan gynnwys sut y gellir creu CSAM â chanfyddiad person cyntaf (Deunydd Cam-drin Plant yn Rhywiol) a sut mae plant yn ceisio gwrthod  triniaeth pobl sy’n paratoi i bwrpas rhyw’n gyfathrebol. Rydym ni'n pontio'r bwlch rhwng ymchwil i gamfanteisio'n rhywiol ar blant ar-lein a cham-drin (gyda ffocws ar dramgwyddwr) ac ymchwil sy'n canolbwyntio ar blant i strategaethau adfer.

Rydym ni'n dod â dadansoddiad ieithyddol ansoddol a meintiol o gofnodion sgyrsiau paratoi i bwrpas rhyw ar-lein ynghyd â dulliau ymchwil gyfranogol, i gynnig gwybodaeth tystiolaeth-ymchwil newydd am ddeinamig tramgwyddwr-plentyn ac iaith plant yn ystod eu paratoi i bwrpas rhyw ar-lein.

Mae'r prosiect yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth ag arbenigwyr profiad personol yn y DU ac ymarferwyr diogelu plant o tua 15 o sefydliadau yn Affrica, Asia, Ewrop ac America Ladin (e.e., cwnselwyr llinellau cymorth i blant, dadansoddwyr llinellau ffôn cymorth ar frys, cymedrolwyr cynnwys a swyddogion cyswllt yr Heddlu mewn ysgolion). Mae partneriaid y prosiect yn cynnwys:

Ar y cyd, rydym ni'n creu ac yn adrodd am ddealltwriaeth ymchwil arloesi, gyda chyd-destun hynod gyfoethog, i lywio gwaith dylunio technolegau atal/datgelu paratoi i bwrpas rhyw ar-lein y gellir eu rhoi ar waith, ac ar raddfa.

 

Dechreuodd Dragon+ ei gam gweithredu ar ddechrau 2023. Roedd y flaenoriaeth tan hynny wedi bod ar sefydlu protocolau clir, nodi cynlluniau cyfathrebu mewnol effeithiol a strwythur llywodraethu i gynnig sylfaen gref ar gyfer cydweithio a chyflawni ar raddfa ryngwladol. Fel rhan o'n cam nesaf, byddwn yn paratoi i lansio cyfres o weithdai i ymarferwyr a gweithdai sy'n canolbwyntio ar blant ac yn dechrau prosesu data cofnodion sgyrsiau sy'n paratoi i bwrpas rhyw ar-lein i'w dadansoddi.

Bydd Cylchlythyron Dragon+ yn cael eu dosbarthu’n achlysurol. Os hoffech chi ymuno â'r rhestr bostio neu os hoffech chi gysylltu â ni, e-bostiwch project.dragonsplus@swansea.ac.uk