Mae'r offeryn DRAGON-Spotter yn integreiddio Ieithyddiaeth a Deallusrwydd Artiffisial (AI) i ddatgelu cynnwys sy'n paratoi i bwrpas rhyw ar-lein, gan nodi'n benodol y tactegau iaith ystrywgar mae pobl sy'n paratoi i bwrpas rhyw yn eu defnyddio, o wneud i blant deimlo wedi'u hynysu'n emosiynol i gyfathrebu bwriad rhywiol yn amlwg ac yn gudd iddynt. Cynlluniwyd DRAGON-Spotter i helpu gwaith datgelu paratoi i bwrpas rhyw ar-lein yr awdurdodau gorfodi ac felly, gall gael effaith sylweddol ar ein gallu i gadw plant yn ddiogel rhag cael eu paratoi  i bwrpas rhyw ar-lein.

Gellir gosod yr offeryn hwn i gynnig llwyfan  i orfodwyr y gyfraith lanlwytho sgyrsiau a ganfu i'w prosesu gan fodel dysgu peirianyddol DRAGON-Spotter. Mae'r offeryn yn defnyddio'r model hwn i lunio sawl sgôr, sy'n cael eu defnyddio i gategoreiddio'r holl sgwrs fel paratoi i bwrpas rhyw ar-lein/ddim paratoi i bwrpas rhyw ar-lein, a chan ddatgelu achosion o dactegau pobl sy'n paratoi i bwrpas rhyw mewn sgwrs. Caiff canlyniadau’r allbwn eu dadansoddi gan y defnyddiwr a'u defnyddio i symleiddio gwaith datgelu, megis:

  • Asesu cychwynnol a blaenoriaethu achosion i'w prosesu;
  • Lleihau llwyth gwaith dadansoddwr/swyddog wrth brosesu achosion;
  • Atgyfnerthu achos presennol;
  • Nodi achosion newydd.

Gall defnyddwyr DRAGON-Spotter ddehongli canlyniadau'r offeryn a'u cynnwys yn eu harferion gwaith nhw mewn ffordd wybodus. Mae ein canllaw hwylus i ddefnyddwyr ar gael i'ch helpu i lywio eich ffordd drwy'r offeryn, gan esbonio canlyniadau a sicrhau ei fod yn hawdd ei ddefnyddio. 

Yn dilyn cyfnod o ddatblygu a phrofi cadarn, a chan weithio ar y cyd ag adrannau gorfodi’r gyfraith ac ymarferwyr diogelu'n rhyngwladol, mae Prosiect DRAGON-S yn cynnal gwerthusiad trylwyr o offerynnau DRAGON-Shield a DRAGON-Spotter yn 2023.

Os ydych chi'n Asiantaeth Gorfodi'r Gyfraith ac mae diddordeb gennych chi mewn dysgu rhagor am ein hofferyn DRAGON-Spotter a hoffech chi gysylltu â ni, e-bostiwch prosiect.dragons@abertawe.ac.uk.