Mae C2CHAT yn brosiect a ariennir gan CCAUC (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru) (2023) â'r nod o frwydro yn erbyn problem gymdeithasol gynyddol sy'n effeithio ar lawer o blant a phobl ifanc yn fyd-eang ac yng Nghymru: aflonyddu rhywiol ar-lein, rhwng cymheiriaid.

Aflonyddu rhywiol ar-lein, rhwng cymheiriaid yw ymddygiad rhywiol digroeso rhwng plant a phobl ifanc a geir ar lwyfannau digidol. Yn hollbwysig, caiff ymddygiad o'r fath ei sianeli drwy gyfathrebu. Hynny yw, mae'n digwydd drwy sianelau ysgrifenedig (bygythiadau rhywiol, ceisiadau rhywiol, etc.) - boed ar lafar/wedi'i gofnodi neu ei deipio) a gweledol (lluniau, dolenni i fideos etc.).  Mae C2CHAT yn arloesi ym maes dadansoddi cyfathrebu rhwng plant a phobl ifanc, gyda ffocws ar iaith, yng nghyd-destun aflonyddu rhywiol ar-lein rhwng cymheiriaid. Caiff y canlyniadau eu hintegreiddio mewn ffordd synergyddol â’r rhai hynny sy'n deillio o gyd-greu gweithdai gyda phlant a phobl ifanc, ymarferwyr diogelu plant a rhieni/gofalwyr. Ar y cyd, maent yn helpu i lywio datblygiad adnoddau hyfforddi i ymarferwyr diogelu plant a rhieni/gofalwyr i'w helpu i gefnogi plant a phobl ifanc a thrwy hynny, frwydro yn erbyn aflonyddu rhywiol ar-lein rhwng cymheiriaid.

Yn dilyn cwblhau adolygiad systematig o lenyddiaeth cam-drin plant yn rhywiol ar-lein rhwng plant, cynhaliwyd dwy rownd o sesiynau creu ar y cyd ag ymarferwyr a rhieni/gofalwyr ledled Cymru a chyda phlant a phobl ifanc (wedi'i hwyluso gan Youth Cymru), dadansoddiad ieithyddol o sgyrsiau cam-drin rhwng plant ar-lein, ac mae C2CHAT yn coladu ei ganfyddiadau mewn cyfres neu adroddiadau cryno a dogfen C2CHAT Blueprint. Bydd y glasbrint hwn yn llywio datblygiad hyfforddiant effeithiol mewn perthynas â'r pwnc pwysig hwn.

C2CHAT Report, December 2023

Partneriaid y Prosiect:

Llywodraeth Cymru
Tarian ROCU
Youth Cymru

Aelodau tîm y prosiect:

Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus (Cyfarwyddwr)
RuthMullineux-Morgan (Dirprwy Gyfarwyddwr ac Ymchwilydd)
Keighley Perkins (Ymchwilydd)
Leonie Themelidis (Ymchwilydd)
Lara MacNeil (Swyddog Prosiect)

Am ragor o wybodaeth ynghylch y prosiect, anfonwch e-bost at n.lorenzo-dus@swansea.ac.uk neu r.n.mullineux@abertawe.ac.uk.