Cyfleoedd cyfrwng Cymraeg yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Gall y tudalennau hyn eich helpu i wneud penderfyniadau ynghylch astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn cynnig anrhydeddau sengl a chydanrhydedd trwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfan gwbl. Mae hefyd yn bosib i chi astudio rhan o'ch gradd trwy gyfrwng y Gymraeg drwy ddewis rhai modiwlau cyfrwng Cymraeg a modiwlau eraill cyfrwng Saesneg, er mwyn astudio'n ddwyieithog. Mae cyfleoedd dysgu eraill yn cynnwys tiwtora ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae gennych hawl i gyflwyno gwaith cwrs a sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg, hyd yn oed os ydych wedi dewis cwblhau'r cwrs trwy gyfrwng y Saesneg. Drwy barhau i astudio'ch cwrs yn gyfan gwbl neu'n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg, byddwch yn datblygu'ch sgiliau mewn dwy iaith, a fydd yn agor drysau ar ôl i chi adael y Brifysgol.

Mae nifer o staff a myfyrwyr Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn siaradwyr Cymraeg. Mae Academi Hywel Teifi, sy'n hyrwyddo addysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws pynciau'r Brifysgol, wedi'i lleoli yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau.