Mae dyfodol disglair yn aros myfyrwyr y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Yn ogystal â'r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu datblygu drwy eich astudiaethau a'r cwricwlwm, mae'r Coleg yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd a mentrau o ran cyflogadwyedd.

Rydym yn gweithio ar draws y Brifysgol, ac yn allanol gyda chyflogwyr, grwpiau sy'n cynrychioli cyflogwyr, cyrff proffesiynol, a sefydliadau rhyngwladol partner i roi cyfle i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, boed yn fyfyrwyr o'r Deyrnas Gyfunol, yn fyfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd, neu'n fyfyrwyr rhyngwladol, i astudio dramor, i ymgymryd â lleoliad gwaith, i wneud interniaeth, neu i wneud gweithgarwch allgyrsiol. Rydym am sicrhau bod gan ein graddedigion sgiliau a rhinweddau rhagorol fel y gallant gystadlu a llwyddo yn y farchnad swyddi.

Interniaethau

Graddedigion yn graddio

Lleoliadau Gwaith

Graddedigion yn graddio

Cynllun Llysgenhadon Myfyrwyr

Graddedigion yn graddio

Yn eu geiriau eu hunain ...

Fel y gwelwch yn y fideos isod, mae ein graddedigion wedi'u cyflogi mewn galwedigaethau amrywiol a deinamig, megis marchnata, gwerthiannau a hysbysebu; masnach, diwydiant a'r sector cyhoeddus; addysg; busnes, y gyfraith a chyllid; newyddiaduriaeth, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus; ysgrifennu creadigol a phroffesiynol; chwaraeon; proffesiynau cymdeithasol a lles; treftadaeth a thwristiaeth; llywodraeth a gwleidyddiaeth; materion tramor a'r corfflu diplomyddol; sefydliadau dyngarol; addysgu Saesneg fel iaith dramor; ac mae rhai yn gweithio fel cyfieithwyr.