Gwnaeth cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, Janes Tonks a Tony Clements, gwrdd ym Mhrifysgol Abertawe ac yma, maent yn bwrw golwg  ar eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe a sut y llywiodd eu bywyd gyda'i gilydd yn y dyfodol.

Atgof Jane

Cwrddais i a'm partner Tony ym Mar y Coleg ar 7 Hydref 1978 ac rydym ni gyda'n gilydd o hyd, gyda thri o blant, dwy yrfa foddhaus a 42 o flynyddoedd o hanes gyda'n gilydd.

Roeddwn i'n lasfyfyriwr ac roedd fy mhartner wedi graddio o Goleg Prifysgol Abertawe (fel y'i gelwid ar y pryd) ychydig o flynyddoedd cyn hynny ac a oedd wedi dychwelyd i gwrdd â'i ffrindiau'r noson honno ym mar y coleg.

Nid oedd yr un ohonom yn dod o Abertawe ond rydym ni wedi ymgartrefu yma a ganwyd ein plant yma.

Gwnaethom ni fwynhau gyrfaoedd gwerthfawr, diolch i'n haddysg yn Abertawe, a byddwn yn dychwelyd bob ychydig o flynyddoedd i far y coleg ar ben-blwydd ein priodas i ddathlu ei bwysigrwydd i'n bywydau.

Rydym o hyd yn byw ar ochr arall Parc Singleton, dan gysgod gofalgar ein halma mater.

Llongyfarchiadau Brifysgol Abertawe ar eich canmlwyddiant!

Mae gennym ambell lun o'r adeg honno. Doedd dim ffonau symudol yn y dyddiau hynny a doedd dim camera gennym ni, felly mae'r rhai hyn o'r bwth lluniau a oedd yn arfer bod yn Nhŷ Fulton. Rydym wedi ceisio ail-greu'r rhai gwreiddiol yn y lluniau diweddaraf.

A split image of Jane and Tony. The image on the left was taken in a photo booth in 1978 and the image on the right is a selfie taken in 2020.
A split image of Jane and Tony. The image on the left was taken in a photo booth in 1978 and the image on the right is a selfie taken in 2020. Jane's eyes are closed and both are smiling.