Pan oedd Rhian Evans yn wyth mlwydd oed yn unig, byddai ei mam-gu yn mynd â hi bob dydd Sadwrn i chwarae pêl-rwyd. Wrth i’w chariad at y gamp dyfu, dechreuodd ei doniau flodeuo, a phan oedd hi’n 14 oed, enillodd Rhian ei chap cyntaf dros dîm dan 17 oed CymruEnwyd Rhian yn gapten ar Gymru, gan arwain y tîm at fuddugoliaeth yn erbyn Gogledd Iwerddon. Ers y garreg filltir gynnar hon, mae Rhian wedi datblygu’n gyflym i fod yn un o sêr chwaraeon mwyaf talentog Cymru, gan dderbyn ei chap cyntaf dros dîm dan 21 oed Cymru pan oedd hi’n 17 oed 

Ym mis Ionawr 2020, ymunodd Rhian, sydd yn ail flwyddyn ei chwrs gradd mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corffâ charfan hŷn y Dreigiau Celtaidd – eu chwaraewr ieuengaf erioed. Mae’n un o sêr chwaraeon Prifysgol Abertawe ac fe’i henwyd yn seren chwaraeon ifanc y flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe 2019. Meddai Rhian: “Mae pêl-rwyd yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad i mi; mae wedi fy helpu i wella fy sgiliau a sicrhau fy mod i’n cyflawni fy nodau drwy roi fy agwedd ar y maes chwarae ar waith mewn gweithgareddau eraill yn fy mywyd.  

Rhian Evans yn chwarae pêl-rwyd  

Mae fy ysgoloriaeth chwaraeon wedi chwarae rôl fawr yn fy mywyd, yn enwedig ar yr ochr ariannol. Gan fy mod i’n ymarfer chwe gwaith yr wythnos, rwyf wedi defnyddio’r arian i brynu esgidiau ansawdd uchel hanfodol ac i dalu am dreuliau teithio. Mae Tîm Chwaraeon Abertawe wedi bod yn gefnogol iawn hefyd, felly does dim rhaid i mi boeni am wrthdaro rhwng gemau ac ymrwymiadau astudio.” 

Mae Rhian wedi chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant tîm pêl-rwyd Prifysgol Abertawe, yn enwedig y fuddugoliaeth ddiweddar yn rownd derfynol y cwpan yn erbyn Plymouth. “Rwyf wedi cael cynifer o gyfleoedd ers dod i’r Brifysgol,” meddai, o’r cyfnod cyn dechrau’r tymor i ennill y cwpan yn nes ymlaen – ac rwyf wedi gwneud llwyth o ffrindiau newydd.” 

Er mai pêl-rwyd yw ei phrif gamp, mae doniau rhagorol Rhian hefyd wedi ei galluogi i chwarae criced dros Gymru, ym mhob grŵp oedran, gan gynnwys y tîm hŷn, a chynrychioli tîm dan 17 oed Cymru mewn athletau (taflu disgen a thaflu maen). Mae’n siŵr bod llawer o lwyddiannau o’i blaen hi, ond mae Rhian yn ymwybodol o uchafbwynt ei gyrfa hyd yn hyn: “Chwarae i’r Dreigiau Celtaidd – roedden ni’n chwarae yn erbyn Manchester Thunder, sef clwb gorau’r Deyrnas Unedig, felly roeddwn i’n falch iawn o gael cyfle i’w hwynebu nhw. Llwyddais i sgorio sawl gôl hefyd. Er i ni golli’r gêm, carfan ifanc ydyn ni felly mae gennym ddigon o amser i wella ac rwy’n gwybod ein bod ni’n gallu gwneud hynny.” 

Enwyd Rhian yn chwaraewraig iau’r flwyddyn ar gyfer 2020 gan Brifysgol Abertawe ac mae hi wedi dangos ei bod hi’n gymeriad amryddawn, gan ennill teitl glasfyfyriwr y flwyddyn Prifysgol Abertawe hefydMae hi bellach yn canolbwyntio ar wireddu ei breuddwyd o gymryd rhan yng Nghwpan Ieuenctid y Byd yn Ffiji yn 2021. 

Mae’n ymddangos bod unrhyw nod o fewn cyrraedd y seren chwaraeon ifanc hon sydd eisoes wedi ennill llu o wobrau. Mae Prifysgol Abertawe’n falch iawn o chwarae rhan fach yn nyfodol disglair Rhian Evans. 

Mwy o wybodaeth am Ysgoloriaethau Chwaraeon Prifysgol Abertawe