Cynllun Ysgoloriaeth i Athletwyr Talentog
- Mae Prifysgol Abertawe yn falch o fod yn arwain y ffordd o ran cefnogi athletwyr talentog sy'n derbyn eu haddysg yng Nghymru. Y brifysgol yw'r gyntaf i gael ei hachredu gan fenter newydd, sef y Cynllun Ysgoloriaeth i Athletwyr Talentog ("TASS").
- Rydym wedi ennill Achrediad Gyrfa Ddeuol TASS, sy'n cydnabod yr ymrwymiad a ddangosir tuag at helpu myfyrwyr i ragori yn y byd academaidd ac ym myd y campau yn ystod eu cyfnod yn Abertawe.
- Mae'r Achrediad Gyrfa Ddeuol, sy'n bartneriaeth unigryw rhwng gwasanaethau cymorth a staff academaidd ar draws y Brifysgol, yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod llwybr gyrfa ddeuol ar gael i'r myfyrwyr hynny sydd hefyd yn athletwyr o fri. Drwy gynnig hyblygrwydd academaidd a'r amgylchedd a'r cymorth cywir, credwn y gall y myfyrwyr hynny ffynnu a chyflawni eu potensial ym maes addysg ac ym maes chwaraeon.
*Nodwch, er mwyn cofrestru am le TASS ym Mhrifysgol Abertawe bydd angen i chi gwblhau a chyflwyno Ffurflen Gais Ysgoloriaeth Chwaraeon sydd ar gael isod.
Ysgoloriaethau
- Drwy ein cynlluniau ysgoloriaeth, ein nod yw cwmpasu'r sbectrwm eang o dalent y mae pobl ifanc yn ei dangos yn unigol ac wrth ymgymryd â chwaraeon tîm. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sydd nid yn unig yn bodloni'r gofynion academaidd arferol ond sydd hefyd wedi dangos gallu eithriadol ym maes chwaraeon.
- Mae ein hysgoloriaethau chwaraeon a'n rhaglen bwrsariaethau yn ein galluogi i helpu athletwyr talentog i gyflawni eu potensial a'u nodau ym maes chwaraeon yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol.
- Mae pedair lefel o ysgoloriaeth ar gael.
- Cynigir hefyd amrywiaeth o fwrsariaethau chwaraeon os nad ydych wedi llwyddo i gael ysgoloriaeth.
Gweler yr opsiynau isod