Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae sefydliadau ar draws pob sector wedi mynd i'r afael ag effeithiau deuol Brexit a phandemig byd-eang. Yma, mae Is-Ganghellor yr Athro Paul Boyle yn ystyried rôl Prifysgol Abertawe yn adferiad ein rhanbarth a chenedl, a'r cyfleoedd ar gyfer cydweithrediad gwell rhwng prifysgolion a phartneriaid mewn diwydiant dros y misoedd a blynyddoedd nesaf.

Ychydig dros ganrif yn ôl, sefydlwyd Prifysgol Abertawe gan ddiwydiant ar gyfer diwydiant. Er bod ein hôl troed wedi datblygu dros gan mlynedd, heddiw rydym yn parhau i fod yn wir i uchelgeisiau ein sefydlwyr. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid diwydiannol, masnachol a’r sector preifat er budd ein rhanbarth a chenedl, gydag egwyddorion arloesedd a chydweithrediad yn arwain ein gweledigaeth a diben strategol.

Gyda mynediad at rai o'r meddyliau academaidd mwyaf disglair yn y byd, mae ein prifysgol wedi cydweithio'n llwyddiannus â miloedd o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, gan gymhwyso ein harbenigedd ymchwil sy'n arwain y byd a'n cyrhaeddiad byd-eang i ddatrys heriau allweddol heddiw ac yfory. Rydym yn falch o chwarae rôl weithredol yn y gwaith o gefnogi datblygiad rhanbarthol yn Ne-orllewin Cymru, ac rydym wedi cefnogi twf a ffyniant economaidd ein rhanbarth trwy ein gwaith cydweithredol gyda llawer o bartneriaid lleol.

Wrth inni barhau i addasu i dirwedd broffesiynol newydd, wedi'i heffeithio gan Brexit a phandemig byd-eang, rydym hefyd yn gwybod bod cydweithrediad effeithiol, traws-sector yn fwy hanfodol yn awr nag erioed o'r blaen. Mae'r deuddeg mis diwethaf wedi dangos ystwythder a gwydnwch rhagorol ein cymuned fusnes, ein partneriaid a'n cyllidwyr. Trwy weithio gyda'n gilydd, rydym wedi codi i gyflawni gofynion parhaus COVID-19. Gyda'n gilydd, rydym wedi defnyddio ein gwybodaeth a'n harbenigedd i ddatblygu peiriannau anadlu sy'n achub bywydau, cynhyrchu hylif diheintio dwylo, diheintio ambiwlansys, astudio effeithio corfforol a llesiant y pandemig, cofnodi profiadau COVID-19 a chodi arian ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf.

Mae'r llynedd wedi dangos inni'r hyn sy'n gallu cael ei gyflawni trwy gydweithrediad, hyd yn oed yn yr amgylchiadau mwyaf heriol. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn awyddus i gymhwyso'r gwersi hynny er mwyn cefnogi adferiad a datblygiad ein rhanbarth, ein cenedl a'n planed, trwy harneisio'r uchelgais a'r ymdeimlad o frys sydd wedi ysgogi'r ymateb cenedlaethol i COVID-19.

Credaf fod gan ein prifysgol lawer i'w gynnig i'n cymuned fusnes, a gobeithiaf y byddwch yn ystyried gweithio gyda ni wrth inni geisio cefnogi twf economaidd ein rhanbarth yn y dyfodol.

Amrywiaeth o arbenigedd

Fy rôl academaidd gyntaf oedd fel darlithydd ifanc yn yr Adran Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn y 1990au. Pryd hynny, nid yn unig y cefais fy nharo gan gynhesrwydd y croeso, ond hefyd gan ehangder ac amrywiaeth portffolio ymchwil y brifysgol. Heddiw, mae Prifysgol Abertawe wedi'i rhestru fel un o'r 30 sefydliad ymchwil ddwys gorau yn y DU, gyda hanes o gynhyrchu ymchwil sy'n arwain y byd ac yn cyflwyno effaith sylweddol yn y byd go iawn.

Gwyddom fod y sector ymchwil ac arloesi yn hanfodol i gynhyrchiant economaidd cyffredinol ein rhanbarth. Mae'n cyflwyno buddion economaidd, cymdeithasol ac iechyd sylweddol, gan danategu diwydiannau a chreu swyddi a chynhyrchion sy'n gwella ansawdd ein bywyd a gwella ein llesiant diwylliannol. Mae hefyd cyfleoedd go iawn i'n rhanbarth gymryd rôl arweiniol yn y blaenoriaethau polisi sydd wedi'u hamlygu gan lywodraethau presennol Cymru a’r DU, sef adferiad ar ôl y pandemig, adeiladu cymunedau cynaliadwy, cyflawni carbon sero-net, a meithrin busnesau cynhyrchiol a chystadleuol.

Gan gydweithio ar draws y rhanbarth, gallwn ddefnyddio ein gwybodaeth ac arbenigedd i gyflawni prif heriau'r dydd, yn lleol ac yn fyd-eang. Gyda staff hyfforddedig iawn, brwdfrydig a gwybodus, a mynediad at rwydwaith byd-eang sy'n tyfu o dros 500 o bartneriaid ymchwil, mae ein prifysgol wedi'i lleoli'n dda i roi cyfleoedd ar gyfer cydweithrediad ystyrlon i'ch sefydliad.

ddod ag arloesedd newydd i fyw a gweithio gyda sefydliadau i ddeall a datrys heriau'r diwydiant, i ysgogi gostyngiad yn ôl troed carbon ein rhanbarth, mae gan Abertawe bortffolio eang o brosiectau sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant ac a arweinir gan y galw sy'n gallu helpu a chefnogi eich sefydliad i wynebu’r heriau allweddol sydd ohoni.

Ynghyd â'n harbenigedd ymchwil sylweddol, mae ein prifysgol yn cael ei hadnabod am ein haddysgu o safon uchel, sy'n helpu i feithrin cyflogeion hyderus, hyblyg a medrus y dyfodol. Gallwn roi mynediad at gronfa o fyfyrwyr a graddedigion talentog sy'n barod am y gwaith i’ch sefydliad, ar gyfer cyfleoedd lleoliad a chyflogaeth. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddiant proffesiynol a datblygu sgiliau sy'n cwmpasu ystod amrywiol o ddisgyblaethau, ac a gyflwynir gan arbenigwyr yn eu meysydd.

Wrth inni gynllunio ar gyfer dyfodol ar ôl y pandemig, hoffem weithio gyda chi i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sylweddol sydd ar gael inni, er mwyn diogelu cyllid hanfodol y dyfodol ar gyfer ein rhanbarth.

Mynedfa i gyllid

Mae ein cydberthnasau cryf a hirhoedlog â chyllidwyr a buddsoddwyr yn hanfodol i fewnlif cyllid i Dde-orllewin Cymru. Mae ein prifysgol wedi'i lleoli’n dda i gyrchu ystod eang o raglenni cymorth, cynlluniau cymhelliant, a chyllid ar gyfer magu partneriaethau ac ymchwil a datblygu a gweithgarwch sy'n ymwneud ag arloesedd.

I ddweud y gwir, er gwaethaf heriau 2020/21, rwy'n falch bod Prifysgol Abertawe wedi cydweithio ag ystod eang o bartneriaid i ddiogelu £62.6 miliwn mewn dyfarniadau cyllid ymchwil ac arloesi (cyfraniad arian parod) yn wyth mis cyntaf y flwyddyn academaidd 2020/21, sef cynnydd o £38.3 miliwn o'r un adeg o'r llynedd. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi prosiectau sy'n mynd i'r afael â COVID-19, cyflymu arloesedd ar draws y rhanbarth, mynd i'r afael â heriau lleol a byd-eang mawr, ac ysgogi ffyniant yn Ne-orllewin Cymru.

Ar gyfer sefydliadau a leolir o fewn ein rhanbarth, mae cyllid ar gael ar nifer o lefelau: o ychydig o filoedd o bunnoedd ar gyfer prosiectau lefel mynediad, i grantiau gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer prosiectau sy'n mynd i'r afael â heriau byd-eang ac yn cynhyrchu effaith gymdeithasol ac economaidd sylweddol.

Mae hefyd cyfle mawr sy'n dod i'r amlwg i roi hwb i arloesi ledled Cymru trwy Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru, sydd â'r nod o gau bwlch cynhyrchiant Cymru gyda gweddill y DU. Mae'r cyllid hwn yn darparu gallu a chymorth uwch ar gyfer y gymuned fusnes i weithio'n uniongyrchol gyda ni ar brosiectau cyfnewid gwybodaeth, ceisiadau am gyllid a arweinir gan ddiwydiant, a gwaith datblygu'r gweithlu.

Mae cyllid hefyd ar gael o hyd ar gyfer cynllun Horizon Ewrop, a ariennir gan yr UE, gyda'r DU yn parhau i gael mynediad at raglen ariannu €95.5 biliwn yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesi. Byddwn yn annog ein cymuned fusnes yn fawr i fanteisio ar y cyfleoedd a ddarperir gan brosiectau a ariennir gan yr UE sydd dal yn cynnig cymorth i sefydliadau ar draws y rhanbarth.

Yn olaf, er nad oes gennym fynediad at y Gronfa Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd mwyach, sydd wedi cefnogi datblygiad economaidd a chymdeithasol rhanbarthol yng Nghymru ers amser hir, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi manylion y Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd, a fydd yn ei disodli yn y pen draw. Mae cynllun peilot gwerth £220 miliwn ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin (Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU) ar agor ar hyn o bryd, ac – fel nifer o sefydliadau ledled ein rhanbarth – yma ym Mhrifysgol Abertawe rydym yn y broses ar hyn o bryd o lunio a chyflwyno ein cynigion awdurdod lleol.

Er y bydd Prifysgol Abertawe yn parhau i hyrwyddo cryfder y sector ymchwil a datblygu yng Nghymru ar lefel yr UE, lefel y DU a lefel Llywodraeth Cymru, rydym yn gwybod bod y dirwedd ariannu yn newid ar ôl Brexit, gyda chyfleoedd newydd i ddenu ymchwil, datblygu a chymorth arloesi i'n rhanbarth. Ar gyfer cyllidwyr yn y DU, mae'n glir bod ymchwil sydd wedi'i gwreiddio yn anghenion y rhanbarth cyfan a'i ddinasyddion yn flaenoriaeth sy'n dod i'r amlwg; cydweithrediad effeithiol rhwng prifysgolion, y sector preifat a rhanddeiliaid lleol eraill yw'r unig ffordd y gallwn gyflawni hyn.

Cydweithio â ni

Mae cymaint o ffyrdd y gallwn weithio gyda'ch sefydliad, ac rydym yn barod i rannu ein harbenigedd, ein cyrhaeddiad byd-eang a'n cronfa dalent. Gallwch gysylltu â'n tîm ymgysylltu i drafod yr amrywiaeth o gymorth a chyllid sydd ar gael ar hyn o bryd i sefydliadau o fewn ein rhanbarth, Cymru, a'r tu hwnt. Yn ogystal ag anelu at ddeall eich sefydliad, a nodi heriau allweddau a meysydd diddordeb ar y cyd, gall ein tîm ymgysylltu eich cyfeirio at randdeiliaid perthnasol, cefnogi ceisiadau am gyllid, a helpu i agor y drws i gydberthnasau newydd.

Er nad oes modd cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb eto, mae ein rhwydwaith busnes, LINC Prifysgol Abertawe, yn parhau i weithredu yn rhithwir. Gallwch hefyd ymgysylltu â ni, a chyda sefydliadau ledled y rhanbarth, trwy ein grŵp LinkedIn, lle rydym yn rhannu manylion unrhyw weminarau sydd ar ddod, ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyllid COVID-19 a'r cymorth sydd ar gael.

Er gwaethaf y sector yr ydym yn gweithredu ynddo, mae ein byd wedi newid yn sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Ym Mhrifysgol Abertawe, mae ein hymrwymiad i gefnogi arloesiadau newydd, swyddi newydd a busnesau newydd, ac i uwchsgilio gweithleoedd ar gyfer heriau'r dyfodol, yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'n cymuned fusnes dros y flwyddyn i ddod, wrth inni gydweithio i sicrhau dyfodol disglair a ffyniannus ar ôl y pandemig i'n rhanbarth.

Rhannu'r stori