A woman and a man in lab coats looking at a computer screen

Gallai eich sefydliad gymryd mantais o nifer o gyfleoedd cyllido a arweinir gan ddiwydiant i gefnogi gwaith cydweithredol a chael mynediad at gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd ym Mhrifysgol Abertawe.

Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth

Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan y llywodraeth ac maent yn meithrin partneriaethau tair ffordd rhwng sefydliad busnes/trydydd sector, academydd, a chydymaith.

Nod Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) a Phartneriaethau SMART (SP) yw gwreiddio gwybodaeth a phrofiad academaidd i helpu i drawsnewid eich sefydliad, datrys problemau, gwella cystadleurwydd, cynhyrchiant a pherfformiad.

Ychwanegiad diweddar at y rhaglen hon yw Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Rheoli (MKTP), wedi'u targedu at fentrau bach a chanolig eu maint o unrhyw sector sy'n canolbwyntio ar dwf, sy'n awyddus i adeiladu a gweithredu eu strategaeth reoli uchelgeisiol trwy gyflwyno arferion rheoli gwell. Gall MKTPs gwmpasu pob swyddogaeth fusnes allweddol o farchnata i TG, creadigrwydd i reolaeth strategol, AD i gysylltiadau cyflogaeth, a chyllid i logisteg.

Rydym yn cynnig cefnogaeth trwy gydol cylch oes y prosiect; gall hyn gynnwys eich cysylltu ag academyddion, datblygu ceisiadau, a chwblhau'r tasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'ch prosiect.

Dyddiad Cau Ceisiadau

KTPs: Mae Innovate UK yn croesawu ceisiadau drwy gydol ystod o gystadleuthau ar draws y flwyddyn; y dyddiad nesaf fydd yr 2il o Chwefror 2022.

SPs: Mae Llywodraeth Cymru yn rhedeg galwad parhaus lle gallwch ymgeisio ar unrhyw adeg.

Dysgu Rhagor

Grantiau SMART Innovate UK

Wedi’i hariannu’n rhannol gan Innovate UK, mae’r gystadleuaeth hon yn chwilio am syniadau sy’n newid y gêm ac yn fasnachol hyfyw, arloesol neu aflonyddgar.

Rhaid i geisiadau gael eu harwain gan gwmni yn y DU a gallant fod yn sengl neu’n gydweithredol yn dibynnu ar faint y prosiect (rhaid cynnwys menter bach a chanolig).

Dysgu rhagor

SMART Cymru

Mae’r rhaglen hon yn cefnogi busnesau Cymreig i ddatblygu, gweithredu a masnacheiddio cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd.

Gall y cyllid hwn helpu eich busnes, pa bynnag gam o’r Daith Arloesi yr ydych arno! Mae'n cefnogi gweithgaredd ymchwil a datblygu o astudiaethau dichonoldeb, ymchwil ddiwydiannol i ddatblygu prawf cysyniad, datblygiad arbrofol i ddangos canlyniadau ymchwil ar waith, ac, yn olaf, y cam ecsbloetio.

Gall defnyddio ‘Taleb Arloesi’ SMART Cymru eich galluogi i gael mynediad at arbenigedd allanol; os hoffech chi gysylltu ag un, neu fwy, o’n hacademyddion, cysylltwch â ni.

Dysgu rhagor

Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol

Mae Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol (ISCF) yn mynd i’r afael â’r heriau cymdeithasol mawr y mae busnesau’r DU yn eu hwynebu heddiw. Mae'n ymdrin â phedair thema strategaeth ddiwydiannol y llywodraeth: twf glân, cymdeithas sy'n heneiddio, dyfodol symudedd, a deallusrwydd artiffisial a'r economi data.

Cefnogir y gronfa gan £2.6 biliwn o arian cyhoeddus, gyda £3 biliwn o arian cyfatebol gan y sector preifat.

Gallwch wneud cais am y cyllid hwn os ydych yn fusnes, yn elusen, neu wedi’ch lleoli fel sefydliad ymchwil.

Dysgu rhagor

Os hoffech ddarganfod mwy, cysylltwch â'n tîm Ymgysylltu â Busnes