Mynd i'r afael ag allyriadau gan fyd diwydiant

MYND I’R AFAEL AG ALLYRIADAU GAN FYD DIWYDIANT

Mae byd diwydiant yn un o’r gollyngwyr mwyaf o allyriadau carbon deuocsid yng Nghymru, sy’n awgrymu bod datgarboneiddio prosesau diwydiannol yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol er mwyn cyrraedd ein targedau ni a’r rhai sydd yng nghytundeb Paris dros yr amgylchedd.

Gan ddeall bod creu dur yn cynhyrchu swm sylweddol o CO2, mae Tata Steel yn gweithio gyda menter Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol (RICE) ym Mhrifysgol Abertawe er mwyn archwilio ffyrdd o leihau ei hallyriadau carbon.

Mae RICE, sy’n rhan o Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI), yn ymchwilio i sut i fynd â’r carbon deuocsid a gynhyrchir gan brosesau diwydiannol trwm fel creu dur a’i ddefnyddio er mwyn creu cynnyrch o safon uchel a chemigion sy’n bwysig yn ddiwydiannol a fydd wedyn yn helpu creu economi sy’n gryfach ac yn wyrddach.

Dal a defnyddio carbon deuocsid

Ar y cyd â Tata Steel, mae’r prosiect RICE yn adeiladu system arddangosol gwahanu CO2 ar raddfa fawr sy’n ceisio dal (a gwahanu) carbon deuocsid o nwyon cymhleth o ffliwiau diwydiannol a’i droi o fod yn isgynnyrch niweidiol i fod yn nwyddau defnyddiol â gwerth uchel, a chemegion sy’n bwysig i ddiwydiant fel hydrogen gwyrdd, a fydd yn gallu cael ei ddefnyddio fel tanwydd i geir, proteinau pur ar gyfer bwydydd anifeiliaid ac asidau brasterog omega-3 DHA at ddefnydd dynol.

Bydd datblygu unedau hyblyg, at raddfa, yn galluogi byd diwydiant i greu atebion penodol ar gyfer ystod eang o ffynonellau, cymysgeddau o nwy gan Ddal a Defnyddio Carbon (CCU) a chynnig ymateb i leihau allyriadau nwy tŷ gwydr gan y prif ollyngwyr disymud fel Tata Steel.

DAL A DEFNYDDIO CARBON DEUOCSID

DEFNYDDIO ALGAE

Fel rhan o’u hymchwil mae RICE hefyd yn archwilio sut y gellir defnyddio algae mewn amgylchedd diwydiannol er mwyn treulio carbon deuocsid trwy adeiladu adweithydd ffoto-bio a all gynnwys 15,000L sydd bron ar raddfa fasnachol, er mwyn tyfu algae ar garthffrydiau diwydiannol a choethi’r algae er mwyn cynhyrchu sawl cynnyrch fel algae cell gyfan ac echdynnyn sy’n gyfoethog o ran protein.

Mae’r ymchwil hon yn dilyn y prosiect EnAlgae gan Brifysgol Abertawe a dyfodd algae ar y safle yn Tata Steel ym Mhort Talbot a dangos bod algae yn gallu helpu i drin nwyon gwastraff a gellir eu defnyddio er mwyn cynhyrchu ynni biofethan a bwydydd i bysgod.

DYSGWCH RAGOR AM YR YMCHWIL

PROSIECTAU A CHANOLFANNAU SY’N BARTNERIAID