Llun: Hazel Nichols

mongoose yn edrych ar ol ei fabi

Trosolwg o'r Prosiect

Enw'r Prosiect: Mewnfridio ac osgoi mewnfridio yn y gwyllt

Mae bridio gyda pherthnasau agos yn arwain at iselder mewnfridio, sy’n dethol yn gyffredin ar gyfer ymddygiad osgoi mewnfridio. Fodd bynnag, mae is-gategori o rywogaethau yr ystyrir bod mewnfridio’n rhan gyson o’r system fridio ar eu cyfer. Un o’r rhywogaethau hyn yw’r mongŵs rhesog. Ynghyd â Dr Jenni Sanderson a’r Athro Mike Cant o Brifysgol Caerwysg, rydym wedi dangos bod y mongŵs rhesog Mungo mungo’n dangos lefelau uchel o fewnfridio yn y gwyllt, ac mae tua 9% o fongwsiaid bach yn ganlyniad i baru rhwng tad a merch neu brawd a chwaer. Mae mewnfridio mor aml siŵr o fod yn digwydd oherwydd bod mongwsiaid gwrywaidd a benywaidd yn aros yn yr un grŵp teulu lle cawsant eu geni, ac felly mae cyfleoedd i fridio gydag unigolion nad ydynt yn perthyn iddynt yn brin. Er gwaethaf hyn, mae mongwsiaid rhesog yn ceisio osgoi mewnfridio lle bo’n bosib. Er enghraifft, mae’n well gan fongwsiaid gwrywaidd amddiffyn mongwsiaid benywaidd derbyngar nad ydynt yn perthyn iddynt yn ystod y tymor paru na’r rhai sy’n perthyn iddynt. Yn ogystal, bydd mongwsiaid benywaidd weithiau’n peryglu eu bywydau eu hunain i baru â gwrywod o grwpiau cystadleuol yn ystod ‘rhyfeloedd’ rhwng grwpiau cyfagos.

Mae’n hymchwil ar fewnfridio ac osgoi mewnfridio yn y mongŵs rhesog yn parhau. Yn benodol, rydym yn ymchwilio i:

1. Beth yw ysgogwyr mewnfridio? Yn benodol, beth yw’r ffactorau cymdeithasol sy’n llywio ymddygiad mewnfridio, ac a yw’r tueddiad i fewnfridio’n cael ei etifeddu?

2. A yw mewnfridio’n cael ei osgoi, ac os felly, sut? A yw mongwsiaid rhesog yn gallu adnabod perthnasau ar sail gwasgariad, agosatrwydd neu baru ffenoteip (e.e. arogl).

3. Beth yw canlyniadau mewnfridio i famaliaid sy’n cydweithio? Ar ei fwyaf sylfaenol, mae mewnfridio’n cynyddu’r agosatrwydd rhwng aelodau grŵp, a allai yn ei dro gynyddu manteision cydweithio. Fel arall, efallai y bydd mongwsiaid sy'n tarddu o fewnfridio o gyflwr gwael ac felly byddant yn gallu helpu'n llai na'r unigolion nad ydynt yn tarddu o fewnfridio. O ganlyniad, gall fod gan fewnfridio effeithiau pwysig o ran dosbarthu ymddygiad helpu mewn grwpiau cymdeithasol.