Nikki Price

Des i allan pan oeddwn i yn y Brifysgol.

Cefais fy magu yn ystod Adran 28, a oedd yn ei hanfod yn golygu nad oedd ysgolion yn cael dysgu plant bod gwrywgydiaeth yn bodoli a'i bod yn iawn. Arweiniodd hyn at oedi i mi ddynodi fy nghyfeiriadedd rhywiol a dechreuais I fynd allan gyda rhai bechgyn yn y coleg ond nid oedd byth yn teimlo'n naturiol. Roedd cychwyn ym Mhrifysgol Abertawe yn gyfle i ddod i adnabod fy hun i ffwrdd o bopeth a phawb roeddwn i'n eu hadnabod. Dyna pryd sylweddolais fod rheswm da pam nad oedd fy nghariadon coleg oedd yn fechgyn yn teimlo'n iawn, roedd hynny oherwydd fy mod i'n lesbiad.

Harddwch mynd i ffwrdd i'r brifysgol yw fy mod wedi gallu dod i delerau â hyn yn fy amser fy hun cyn gorfod dod allan i fy nheulu. Llwyddais i ddod allan yn y brifysgol yn gyntaf ac elwa o'r holl gefnogaeth a gefais gan fy ffrindiau (darganfyddais fod 3 ohonynt yn ddeurywiol pan ddes i allan), yn ogystal â'r gefnogaeth a gefais gyda rhwydwaith LGBTQ + y Brifysgol.

Un peth rydw i wedi'i ddysgu dros y blynyddoedd yw pwysigrwydd bod o gwmpas pobl sy'n eich deall chi, o leiaf peth o'r amser. Pan oeddwn yn y brifysgol cefais y llawenydd o gael llawer o ffrindiau a oedd o'r gymuned LGBTQ + yn ogystal â'r gymuned syth. Roedd fy ffrindiau LGBTQ + yn hanfodol yn fy nhaith I ddweud wrth bobl fy mod i’n hoyw. Aethon ni i fariau hoyw bob penwythnos a dysgais gymaint am hanes LGBTQ + ganddyn nhw. Cefais lawer hefyd o fy nghyfeillgarwch gyda ffrindiau nad oedd yn hoyw hefyd gan eu bod yn rhannu llawer o fy niddordebau sy'n rhan o'r rhannau eraill o bwy ydw i.

Pan adewais y brifysgol a mynd yn ôl adref, sylweddolais er bod gen i ffrindiau, nid oedd  un ohonyn nhw o'r gymuned LGBTQ + ac roedd yn teimlo fel bod rhywbeth ar goll o fy mywyd. Defnyddiais yr hyder roeddwn i wedi'i ennill trwy fy amser yn Mhrifysgol Abertawe i fynd allan i ddod o hyd i'm cymuned leol newydd ac erbyn hyn mae gen i grŵp gwych o ffrindiau o bob cefndir y gallaf uniaethu â nhw mewn gwahanol ffyrdd ac sydd i gyd yn golygu'r byd i fi.

Mae gen i deulu cefnogol sydd a meddyliau agored iawn, felly doeddwn i byth yn poeni na fydden nhw'n derbyn hyn amdanaf i. Fodd bynnag, mae dod allan yn dal i fod yn frawychus, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau hynny. Yn y bôn rydych chi'n dweud wrth y bobl agosaf atoch chi eich bod chi'n wahanol ac yn gofyn iddyn nhw dderbyn y gwahaniaeth hwnnw yn hytrach na cheisio ei guddio neu ei anwybyddu. Rwy'n un o'r rhai ffodus oherwydd eu bod wedi derbyn y rhan yma ohonof yn llawn.

Bydd Abertawe bob amser yn dal lle arbennig yn fy nghalon; nid yn unig am ei fod wedi fy nghyfarparu â'r radd a luniodd fy ngyrfa hyd yma, ond hefyd oherwydd mai dyna'r lle y cefais fy hun yn wirioneddol, cofleidio pwy ydw i ac ennill y gefnogaeth yr oeddwn ei hangen i fy arfogi gyda'r gwytnwch sy'n ofynnol i fod yn lesbiad allan. mewn cymdeithas.