(Pictured l-r, Prof Brian Garrod, Swansea University, Dr Allan Jepson, University of Hertfordshire, Dr Marcus Hansen, Liverpool John Moores University)

Cynhaliwyd cynhadledd undydd ddydd Llun, 9 Ionawr ar y testun Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol i Gymru.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar y cyd gan yr Ysgol Reolaeth a'r Ganolfan Ymchwil i'r Economi Ymwelwyr (CVER). Cynhaliwyd y digwyddiad ar Gampws y Bae ac fe'i mynychwyd gan tua 20 o gynrychiolwyr o adrannau academaidd y brifysgol, ein tîm awtistiaeth, sefydliadau marchnata cyrchfannau, a'r rheiny sy'n cynrychioli busnesau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn yr ardal.

Bu’r gynhadledd yn arddangos nifer o brosiectau y mae'r Ysgol Reolaeth yn cymryd rhan ynddynt ar hyn o bryd, ar y themâu hygyrchedd i fusnesau twristiaeth a gweithgareddau i bobl anabl. Roedd ffocws penodol ar niwroamrywiaeth, gyda diddordebau ac anghenion pobl niwroamrywiol (fel y rheiny ag awtistiaeth ac ADHD) yn cael eu rhoi ym mhen blaen a chanol y ddadl. Cafwyd cyflwyniadau gan yr Athro Brian Garrod, Prifysgol Abertawe ar "Ddatgymalu'r rhwystrau gwybodaeth i dwristiaeth hygyrch", Dr Allan Jepson, Prifysgol Swydd Hertford, ar "Niwroamrywiaeth a thwristiaeth deuluol", a Dr Marcus Hansen, Prifysgol John Moores Lerpwl, ar "Niwroamrywiaeth yn y gweithle twristiaeth a lletygarwch". 

Dywedodd yr Athro Brian Garrod, a lywyddodd y digwyddiad "Roeddwn wrth fy modd yn gweld cymaint o bobl â diddordeb mewn hygyrchedd a chynwysoldeb mewn twristiaeth yn dod at ei gilydd i glywed am ein hymchwil ac i drafod ffyrdd ymlaen ar gyfer y pwnc hanfodol hwn i ddiwydiant twristiaeth Cymru. O ystyried y ffocws sy'n cael ei roi ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod rôl hanfodol twristiaeth fel ffynhonnell llesiant, yn enwedig i bobl ag anableddau, a'r angen i ddatblygu darpariaeth dwristiaeth decach a mwy hygyrch. Ni all fod unrhyw gynaliadwyedd heb hygyrchedd. Credaf fod gan Gymru y potensial i fod ar flaen y gad o ran datblygiadau o'r fath, felly mae'n dda gallu dod â phartïon sydd â diddordeb ynghyd heddiw i ddechrau mapio ffordd ymlaen"

Rhannu'r stori