Mae staff academaidd yn yr adran Gyfrifyddu a Chyllid wedi bod yn annog myfyrwyr yr Ysgol Reolaeth i gymryd rhan mewn cystadleuaeth Masnachu gan adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd blaenorol.


Prif nodau’r gystadleuaeth ‘Cronfa Fuddsoddi’ hon yw datblygu sgiliau proffesiynol ac academaidd myfyrwyr tra’n gwella dysgu a arweinir gan ymchwil a dysgu a arweinir gan ymarfer. Mae hon yn gystadleuaeth dîm sy’n agored i bob myfyriwr- israddedig ac ôl-raddedig – sy’n astudio yn yr Ysgol Reolaeth, nid y rhai sy’n rhan o’r rhaglenni Cyfrifyddu a Chyllid yn unig.

Esboniodd darlithydd mewn Cyllid, Joy Jia, ‘Gobeithiwn fod y gystadleuaeth hon yn ategu gwerth at CV cyfranogwyr ac rydym wrth ein boddau gan weld nifer y myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan er gwaetha’r cyfyngiadau a osodwyd yn ystod y cyfnod hwn.’  

Yn fwy penodol, bwriedir i’r gystadleuaeth greu’r canlyniadau dysgu canlynol:

  • Adolygu beirniadol a chymhwyso damcaniaethau ac astudiaethau perthnasol mewn ymarfer buddsoddi;
  • Llunio ceisiadau ar gyfer ymchwil/ymarfer;
  • Datblygu hunan-ymwybyddiaeth ac ymwybyddiaeth broffesiynol;
  • Gwella ystod eang o sgiliau proffesiynol megis gwaith tîm, mentora cymheiriaid, rheoli amser, sgiliau cyflwyno a chyfweld;
  • Sgiliau personol gan gynnwys rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol a chymheiriaid;
  • Hyrwyddo diwylliant digidol.

Cwblhaodd saith tîm, â chyfanswm o 20 o fyfyrwyr, y prosiect a chyflwynodd darlithwyr Giulia Fantini a Joy Jia nifer o weithdai trwy Zoom er mwyn paratoi a chefnogi cyfranogwyr cyn cyflwyno’r cais terfynol.

Ymunodd Russell Barlow, Pennaeth Byd-eang o Strategaethau Buddsoddi Amgen yn Aberdeen Standard Investments, a’i gydweithiwr Vicky Hudson, Uwch-reolwr Buddsoddi, a gynorthwyodd gyda’r gwaith o farcio’r ceisiadau.

Hefyd ymunodd Rui Jin, Prif Swyddog Gweithrediadau yn Haitong International (UK) Limited â ni. Rhannwyd eu straeon gyrfa gyda’n myfyrwyr gan roi cyngor ar y broses recriwtio yn eu maes gwaith ac ateb nifer o gwestiynau cyffredinol.

Cyhoeddodd Russell mai’r enillwyr oedd:

  • Gwobr gyntaf: Landscaping Reserve (Taleb Amazon gwerth £200);
  • Ail wobr: Antiguan Fellow (Taleb Amazon gwerth £100)
  • Trydedd wobr: A Squared (Taleb Amazon gwerth £50.

Bydd pob un o’r saith tîm yn derbyn tystysgrif gyfranogaeth.

 

Rhannu'r stori