Sion and Caitlin from RAVS

Agorodd y siop ddillad ail-law ddechrau eleni yng nghanol tref Abertawe.

Mae dau o fyfyrwyr  Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe wedi manteisio ar y galw cynyddol am ddillad vintage drwy agor eu siop ddillad ail-law lwyddiannus, sef Retro and Vintage Store (RAVS).

Datblygodd Sion Williams (myfyriwr BSc mewn Rheolaeth Busnes (Entrepreneuriaeth), a Caitlin Leatham (BSc mewn Rheolaeth Busnes) y busnes fel rhan o’u modiwl Entrepreneuriaeth Gymhwysol yn ail flwyddyn eu gradd a throi’r syniad yn realiti, gan lansio RAVS yn gynharach eleni yn Abertawe.

Wrth sôn am y rheswm dros ddewis y modiwl entrepreneuriaeth, dywedodd Caitlin ei fod, "ei fod yn gyfle i gymhwyso damcaniaeth ac ymarfer a sefydlu fy musnes fy hun".

Ychwanegodd Sion, “rwyf bob amser wedi eisiau gweithio i fi fy hun, i fod mor llwyddiannus â phosibl wrth wneud gwahaniaeth i gymdeithas; dyna pam y dewisais astudio BSc mewn Rheolaeth Busnes (Entrepreneuriaeth) yn y Brifysgol.”

Wrth sôn am ddatblygu’r busnes, nododd Sion:

“Deilliodd y syniad o’r ffaith fy mod i’n frwdfrydig am ddillad retro a vintage ac am fy mod i’n credu ei fod yn bwysig annog cynifer o bobl â phosbl i wisgo dillad ail-law. Mae’r sector dillad yn cynhyrchu mwy na 1.1 miliwn tunnell o wastraff bob blwyddyn yn y DU – sef ffigur sy’n peri pryder ac sy’n cynyddu. Rwy’n credu’n gryf y dylid gwneud mwy i leihau’r ffigur hwn ac y bydd cyflwyno mwy o siopau dillad vintage yn helpu hynny.”

Ychwanegodd Caitlin:

“Mae ffasiwn vintage yn dod yn fwyfwy poblogaidd, yn enwedig ymhlith myfyrwyr ffasiynol sy’n ystyrlon o’r amgylchedd. Bydd y siop yn cael ei lansio fel un sy’n rhoi’r cwsmer yn gyntaf, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at weld y brand yn tyfu.”

I gael rhagor o wybodaeth am RAVS, gweler y dudalen Facebook.

Rhannu'r stori