Llongyfarchiadau mawr i'n Hathro Polisi Datblygu Busnesau Bach a Menter, yr Athro David Pickernell, sydd wedi'i ethol yn Gyfarwyddwr Bwrdd y Sefydliad Busnesau Bach ac Entrepreneuriaeth (ISBE).

Gyda dros 500 o aelodau, a rhwydwaith o bron i 4,000, y Sefydliad Busnesau Bach ac Entrepreneuriaeth (ISBE) yw rhwydwaith mwyaf, a mwyaf sefydledig, y DU ar gyfer unigolion a sefydliadau sy'n ymwneud ag ymarfer addysg fenter, ymchwil i fusnesau bach ac entrepreneuriaeth, llunio polisi entrepreneuriaeth, cyflawni a gwerthuso, cymorth a chyngor i fusnesau bach.

"Pleser mawr a braint yw cael fy ethol yn Gyfarwyddwr Bwrdd y Sefydliad Busnesau Bach ac Entrepreneuriaeth (ISBE). Ar ôl cadeirio Cynhadledd ISBE 2013 yng Nghaerdydd, mae hon yn anrhydedd aruthrol i'w derbyn ac edrychaf ymlaen at gynorthwyo ISBE yn ei ddatblygiad parhaus"

Yr Athro David Pickernell

Rhannu'r stori