Llongyfarchiadau mawr i'n Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Rheoli Busnes Israddedig, Dave Bolton, am ennill rôl Darpar Lywydd Etholedig EEUK.

Mae EEUK (Enterprise Educators UK) yn sefydliad ledled y DU sy'n ymroi i hyrwyddo a galluogi addysg menter yn y DU a thramor. Mae Dave wedi bod yn Gyfarwyddwr EEUK ers 2019 gan ddod yn gyfarwyddwr cyllid yn 2021 a Darpar Lywydd yn 2022. Bydd yn ymgymryd â rôl y Llywydd yn 2023 am gyfnod o 2 flynedd.

Mae’r rôl hon, a enillwyd gan Dave, yn rhoi tâl blynyddol o £5000. Bydd yr incwm yn cael ei ddefnyddio fel grant at ddibenion ymchwil yn edrych ar alluogi addysg menter a chydweithio ar sail fyd-eang.

Dwi dal yn methu credu'n iawn fy mod i wedi cael fy ethol yn Ddarpar Lywydd,  a dwi'n siŵr y bydd llawer iawn o 'syndrom ffugiwr' eto i ddod wrth i mi feddwl am enwau'r bobl sydd wedi bod yn y rôl o'm blaen.' Dave Bolton.

Darllenwch fwy am rôl Dave fel Darpar Lywydd ar gyfer EEUK

Rhannu'r stori