Roedd yr Ysgol Reolaeth yn falch o groesawu'r Athro Pantelis Sklias, Pennaeth Prifysgol Neapolis, Paphos ym mis Ionawr i drafod cyfleoedd posib i gydweithredu.

Mae Prifysgol Neapolis, Paphos yn brifysgol breifat a sefydlwyd yn 2007 ar Ynys Cyprus sy'n cynnig graddau israddedig ac ôl-raddedig mewn Astudiaethau Economaidd a Busnes, yn y Gyfraith, y Gwyddorau Iechyd, Pensaernïaeth a Thir a Gwyddorau Amgylcheddol, Diwinyddiaeth a’r Gwareiddiad Groegaidd. Meddai'r Athro Paul Jones, Pennaeth yr Ysgol Reolaeth: “Roedden ni'n falch o groesawu'r Athro Sklias i'r Ysgol Reolaeth a dangos ein campws gwych ar y Bae iddo. Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygu ein cyfleoedd i gydweithredu.” 

Yn y llun mae (o'r chwith i'r dde) Mr Glyn James (Rheolwr Recriwtio a Phartneriaethau Cyfadran Ryngwladol, Cyfadran y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol), yr Athro Pantelis Sklias (Rheithor Paphos Prifysgol Neapolis) a'r Athro Paul Jones (Pennaeth yr Ysgol Reolaeth).

  

Rhannu'r stori