Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi y dyfarnwyd iddi Achrediad y Siarter Busnesau Bach o fri.

Dyfernir y gydnabyddiaeth hon i ysgolion busnes ac ysgolion rheolaeth yn y DU ac Iwerddon sy'n dangos cefnogaeth ragorol i fusnesau bach, yn meithrin entrepreneuriaeth myfyrwyr, ac yn cyfrannu at yr economi leol. Mae Achrediad y Siarter Busnesau Bach yn tynnu sylw at sefydliadau disglair, yn arwain entrepreneuriaid, busnesau bach, a rhanddeiliaid economaidd lleol i sefydliadau fel ein sefydliad ni sy'n meddu ar yr arbenigedd i rymuso eu twf.

Mae'r dyfarniad hwn, sef achrediad a gydnabyddir yn genedlaethol, yn anrhydedd i'n Hysgol Reolaeth a'r Brifysgol; mae hefyd yn agor drysau i ystod o fuddion. Mae ysgolion busnes achrededig yn cael mynediad at weithgareddau meithrin gallu, gallant ddylanwadu drwy eiriolaeth ledled y wlad, a sicrhau'r cyfle i ddarparu a sicrhau cyllid ar gyfer rhaglenni sy'n gysylltiedig â thwf busnes. Un enghraifft amlwg o hyn yw'r Rhaglen Cymorth i Dyfu, sef menter sydd ar gael drwy brifysgolion wedi'u hachredu â'r Siarter Busnesau Bach yn unig.

Fodd bynnag, mae'r achrediad hwn yn cynrychioli un garreg filltir yn unig yn ein taith hirdymor. Mae Prifysgol Abertawe a'r Ysgol Reolaeth wedi bod yn gefnogwyr cadarn i fusnesau bach ac entrepreneuriaeth ers ein sefydlu. Rydym wedi ymgymryd â nifer o fentrau sylweddol i gryfhau'r ecosystem arloesi ac entrepreneuraidd yn ein rhanbarth ni a ledled Cymru a'r DU.

Er mwyn ennill achrediad y Siarter Busnesau Bach, rhaid i ysgolion busnes a rheolaeth gael asesiad trylwyr sy'n mesur effeithiolrwydd eu cymorth i fusnesau, eu haddysg entrepreneuriaeth, a’u gweithgarwch ymgysylltu â'r economi leol. Deilliodd y cyflawniad hwn o dros ddwy flynedd o ymdrech ymroddedig. Cyn yr asesiad, gwnaeth ein tîm baratoi cais cynhwysfawr 16,000 o eiriau o hyd gyda chymorth cyfoeth o ddata. Roedd y cais yn cyrraedd cyfanswm o 260 megabeit, wedi'i goladu'n ofalus gan ddefnyddio Microsoft Teams.

Roedd yr asesiad deuddydd ar-lein yn cynnwys cyfranogiad dros 50 o unigolion, gan gynnwys staff y Brifysgol, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, cynrychiolwyr busnesau bach, grwpiau sy'n cynrychioli busnesau, ac amryw randdeiliaid eraill. Roedd y gwerthusiad hwn yn gyfle unigryw i'r Ysgol Reolaeth, y Brifysgol ehangach, a'n cefnogwyr arddangos ein treftadaeth entrepreneuraidd, datblygiad parhaus a rhagoriaeth ein strategaeth addysg entrepreneuraidd, ein hymgysylltiad allanol a'n cymorth i fusnesau bach a'r gymuned fusnes ehangach sy'n ymwneud â menter ac arloesi, yn ogystal â'r cyfleusterau rhagorol rydym yn eu cynnig i fyfyrwyr a mentrau bach a chanolig.

Meddai David Pickernell, Athro Polisi Busnesau Bach a Datblygu Mentergarwch yn yr Ysgol Reolaeth, "Mae hwn yn gyflawniad gwych ac yn dangos ein hymrwymiad parhaus i feithrin busnesau bach ac entrepreneuriaeth".

Hefyd, nododd crynodeb yr aseswr, "Heb os, mae hon yn brifysgol entrepreneuraidd ac ysgol reolaeth lle roedd mentergarwch yn thema strategol gyson a sefydledig...  Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn cynrychioli economi Cymru a'r ecosystem ehangach a heb os, mae'r ysgol wedi'i gwreiddio'n ddwfn ym mentergarwch, entrepreneuriaeth a chymuned fusnes gyffredinol ei rhwydweithiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol."

Mae cyflawni Achrediad y Siarter Busnesau Bach yn dyst i ymroddiad a gwaith caled cymuned gyfan yr Ysgol Reolaeth, ac mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad diwyro i feithrin entrepreneuriaeth, hybu arloesi, a chyfrannu at dwf busnesau bach a'r economi leol.

Rhannu'r stori