bay campus

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â Chlwb Busnes Bae Abertawe i gynnal digwyddiad ar-lein gydag Arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart am 11.30yb, ddydd Gwener, 13 Tachwedd.

Bydd y digwyddiad ar-lein (drwy Zoom), yn rhoi cipolwg gwerthfawr i aelodau'r gymuned fusnes yn Abertawe a'r amgylchoedd. Bydd yn archwilio datblygiadau presennol a dyfodol y dinas, ynghyd ag adferiad ôl-Covid-19 ledled rhanbarth Dinas Bae Abertawe.

Gellir cyflwyno cwestiynau o flaen llaw yn ystod y broses archebu neu, gallwch e-bostio'n uniongyrchol at info@swanseabaybusinessclub.com, erbyn  diwedd y ddydd, Mercher, 11 Tachwedd.

Bydd y manylion ymuno yn cael eu dosbarthu i westeion ar fore'r digwyddiad. Ni chodir tâl am y digwyddiad agored yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y digwyddiad, cysylltwch â Chlwb Busnes Bae Abertawe yn uniongyrchol ar info@swanseabaybusinessclub.com neu ffoniwch 03300 41 71 80.

Rhannu'r stori