Ar 29 Chwefror, cynhaliwyd digwyddiad dynamig i wella gyrfaoedd pan ddaeth Digwyddiad Rhwydweithio Cyflym ACCA Advantage i'r Ysgol Reolaeth.

Amcan y digwyddiad, a ddenodd dros 50 o fyfyrwyr brwdfrydig, oedd ehangu rhwydweithiau proffesiynol myfyrwyr a darparu cyfleodd amhrisiadwy i gwrdd â darpar gyflogwyr ACCA a oedd yn ceisio llenwi lleoliadau gwaith a swyddi i raddedigion.

Denodd y digwyddiad amrywiaeth eang o gyflogwyr o fri a oedd yn awyddus i gysylltu â'r genhedlaeth nesaf o gyfrifyddion proffesiynol. Ymhlith y cwmnïau nodedig a oedd yn bresennol roedd Ashmole and Co, ICON, KPMG (Jersey), Network Rail, NHS Finance a'r Moracle Foundation.

Hwylusodd natur gyflym y digwyddiad rwydweithio effeithlon gan roi cyfle i fyfyrwyr feithrin gwybodaeth am adeiladu gyrfa lwyddiannus yn maes cyfrifyddiaeth wrth ryngweithio'n uniongyrchol â chyflogwyr. Roedd yr agenda'n cynnwys nifer o sesiynau gafaelgar, gan gynnwys cipolwg ar fyd cyfrifyddiaeth, gwybodaeth am raglen ACCA Advantage a sesiynau rhwydweithio â chyflogwyr ACCA. Ar ben hyn, cafodd y cyfranogwyr gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhwydweithio cyffredinol wrth fwynhau'r lluniaeth a oedd ar gael.

Gwnaeth adborth gan ICON, un o'r cyflogwyr a gymerodd ran, amlygu effaith gadarnhaol y digwyddiad ar fyfyrwyr a chynrychiolwyr proffesiynol y diwydiant. Mynegodd y cwmni werthfawrogiad am y ffordd y targedwyd y gynulleidfa gywir gan y digwyddiad, gan ganmol ei ymagwedd strwythuredig, a oedd yn cynnwys sesiynau panel a chyfleoedd rhwydweithio wedi'u teilwra i anghenion y myfyrwyr.

"Roedd y digwyddiad hwn yn un o lawer a gynhaliwyd ledled y DU ar gyfer myfyrwyr â diddordeb mewn gyrfaoedd cyfrifyddiaeth. Rydyn ni'n falch iawn y cafodd yr Ysgol Reolaeth ei dewis i gynnal y digwyddiad o bwys hwn yng Nghymru," Morwenna Tyler, Ymgynghorydd Ymgysylltu â Busnes (gyrfaoedd).

"Roedd hi'n wych gallu cynnal digwyddiad mor afaelgar ym Mhrifysgol Abertawe.  Gwnaeth ansawdd y myfyrwyr a lefel eu hymgysylltu ynghyd â chymorth gan staff argraff fawr arnon ni.  Yn ACCA rydyn ni'n ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â'n prifysgolion i gefnogi cyflogadwyedd cymaint â phosib, ac mae digwyddiadau fel y rhain, gyda chyflogwyr a staff prifysgol mor ymrwymedig, yn gymorth mawr wrth hyrwyddo ACCA Advantage a sicrhau bod y myfyrwyr yn cael profiad gwych. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at weithio'n fwy agos gydag Abertawe yn y dyfodol," Louise Graham, Pennaeth Perthnasoedd Datblygu Busnes yn y DU.

Arddangosodd digwyddiad Rhwydweithio Cyflym ACCA Advantage yn yr Ysgol Reolaeth yr ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd heb eu hail i fyfyrwyr am ddatblygiad proffesiynol a rhwydweithio ym maes cyfrifyddiaeth. Wrth i fyfyrwyr barhau i elwa o fentrau o'r fath, mae'r digwyddiad yn tanlinellu pwysigrwydd cydweithredu rhwng sefydliadau addysgol a phartneriaid ym myd diwydiant er mwyn llywio'r dyfodol ar gyfer cyfrifyddion proffesiynol.

Rhannu'r stori