Daeth entrepreneuriaid, myfyrwyr a darpar reolwyr i'r Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe ar 18 Gorffennaf ar gyfer digwyddiad hyder gyrfaol CMI y bu aros mawr amdano.

Nod y digwyddiad wyneb yn wyneb hwn, a drefnwyd gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), oedd archwilio'r ffyrdd y gall unigolion feithrin eu hyder gyrfaol a mynd i'r afael â'r heriau y mae busnesau’n eu hwynebu wrth dyfu ledled Cymru.

Tynnodd y digwyddiad sylw at ystadegyn arwyddocaol ac ysgytiol – mae 95% o fusnesau yng Nghymru'n ficrofentrau a sefydlwyd gan entrepreneuriaid talentog sydd am eu tyfu. Fodd bynnag, mae canfod a meithrin y bobl dalentog gywir at ddibenion twf yn dal i fod yn un o'r prif rwystrau iddynt. Yn aml, mae'r perchnogion sefydlu, y mae llawer ohonynt yn ymgymryd â rolau fel rheolwyr ar hap, yn gorfod chwilio am arweiniad i feithrin sgiliau rheoli sylfaenol a goresgyn credau hunan-gyfyngol, megis syndrom y ffugiwr.

Rhannodd aelodau uchel eu bri'r panel, sydd i gyd yn arbenigwyr yn eu meysydd perthnasol, eu dealltwriaeth a'u profiadau er mwyn helpu'r cyfranogwyr i ddarganfod hyder o'r newydd wrth ddatblygu eu gyrfaoedd a'u busnesau. Roedd y panel yn cynnwys Catrin-Parry Jones, aelod o fwrdd CMI Cymru dros gydraddoldeb ac amrywiaeth a Pherchennog a Rheolwr Gyfarwyddwr Crwst Cardigan; Kathryn Austin, Cadeirydd bwrdd CMI Cymru a Chyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Marchnata Pizza Hut UK; Pamela McNamara, Cyfarwyddwr Masnachol Canolfan Wyliau Parc Cenedlaethol Bluestone; Neil Reynolds, aelod o fwrdd CMI Cymru ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymgynghorydd rheoli a buddsoddwr; David Bolton, Athro Cysylltiol yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe; a Carys Evans, Ymgynghorydd Gyrfaoedd yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe.

Gan fynegi balchder wrth gynnal digwyddiad rhanbarthol Cymru, tynnodd David Bolton sylw at y ffaith bod arwain a rheoli’n effeithiol yn egwyddorion sylfaenol a gymeradwyir gan Ysgol Reolaeth Abertawe ar draws ei holl raglenni addysgu. Mae'r gefnogaeth gan CMI, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol, yn un o gonglfeini ymagwedd strategol yr Ysgol.

Profodd digwyddiad hyder gyrfaol CMI i fod yn llwyfan i rymuso entrepreneuriaid a darpar reolwyr yng Nghymru, gan roi'r adnoddau a'r arweiniad ymarferol i'w galluogi i oresgyn heriau a llwyddo yn eu gyrfaoedd a'u hymdrechion busnes. Wrth i'r cyfranogwyr adael y digwyddiad, roedd ganddynt ymdeimlad newydd o hyder a phenderfyniad i gyrraedd uchafbwyntiau newydd yn eu teithiau proffesiynol.

“Mae Ysgol Reolaeth Abertawe'n un o bartneriaid allweddol CMI ym maes addysg uwch. Roedd y digwyddiad yn rhyngweithiol ac yn anffurfiol iawn wrth i'r pwyntiau trafod gynnwys syndrom y ffugiwr, rhwystrau i hyder gyrfaol a chyfleoedd mentora, yn ogystal ag anrhydedd Rheolwr Siartredig CMI a’r buddion sy’n deillio ohono.” Amanda Rose, Rheolwr Digwyddiadau Digidol CMI.

A ydych yn ceisio gwella eich hyder gyrfaol a bwrw ymlaen â'ch busnes? Ymunwch â chymuned CMI: beth ydych yn aros amdano? Mae aelodaeth CMI yn rhoi mynediad uniongyrchol i chi at adnoddau rheoli di-rif i feithrin eich #HyderGyrfaol.

Sicrhewch y gydnabyddiaeth broffesiynol rydych yn ei haeddu! Dewch i ddarganfod a ydych yn gymwys i dderbyn gwobr Rheolwr Siartredig unigryw CMI.

Eich bwrdd CMI lleol: Derbyniwch y newyddion diweddaraf gan fwrdd CMI Cymru a chysylltwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol:

Rhannu'r stori