Ysgrifennwyd y blog gan: Jan Mestek

Ydych chi'n cofio'r teimlad hwnnw o fod yn llawn cyffro ac ofn cyn i chi gau'r drws a mynd i barti bythgofiadwy? Rydym ni. Serch hynny, ceir y broblem pan na fydd y disgwyliadau'n cael eu cyflawni ac yna rydych chi'n meddwl, wel dyna beth oedd gwastraff amser. Y teimlad hwn o siom a wnaeth ein hysbrydoli i ddechrau'r cwmni hwn a dechrau cynnal partïon yn ein ffordd ni.  Y rhai hynny sy'n rhoi straeon doniol, ffrindiau newydd a phen tost i chi. Ein nod yw gwneud y byd yn lle gwell i fyw drwy gynnig profiad bythgofiadwy iddynt. Mae bywyd yn fyr, felly gadewch i ni ei fwynhau.

Sut dechreuodd y cyfan

Roedd hi tua chanol mis Ebrill 2020 pan roeddwn yn hunanynysu am 3 wythnos oherwydd Covid-19. Roeddwn yn awyddus i feddwl am syniad busnes, oherwydd daw pob argyfwng â chyfleoedd newydd.  Un noson, roeddwn yn gwylio ffilm ar Netflix o'r enw XOXO. Roedd y ffilm hon yn trafod gŵyl gerddoriaeth a DJ ifanc a wnaeth gyfansoddi un gân ar YouTube a chafodd gynnig i'w pherfformio'n fyw.    Nid oedd ganddo gar a bu'n rhaid iddo deithio i'r ŵyl ar fws.  Pan oeddent ar eu ffordd i'r ŵyl, torrodd y bws i lawr a dyma bobl yn mynnu cael eu harian yn ôl.  Yna tarodd hynny mi. A oes unrhyw asiantaeth deithio'n cynnig teithiau i wyliau? Nac oes!

Hanes Rave Nation

Pan fyddwch yn teithio i ŵyl gerddoriaeth, mae gennych ddau opsiwn.  Gallwch deithio ar gludiant cyhoeddus, ond gall hynny fod yn anodd pan fyddwch yn teithio i wlad dramor. Mae llawer o newidiadau, tocynnau drud a lle cyfyngedig ar gyfer eich bagiau (sy'n gorfod cynnwys cyfarpar gwersylla) yn rhai o'r anawsterau wrth deithio ar gludiant cyhoeddus.

Gall teithio mewn car fod yn fwy cyfforddus, ond cofiwch dalu am yr holl ffyrdd a thollau gwahanol.

Ond mae trydydd opsiwn. Wel, gobeithio pan fyddwn ar waith. Prif gynnyrch Rave Nation yw un tocyn cynhwysfawr ar gyfer gŵyl gerddoriaeth, a fydd yn cynnwys tocyn i'r ŵyl, llety, tocyn teithio a llawer o bethau eraill.   Bydd hefyd yn cynnwys cymorth ar y safle yn ystod y daith a chyngor ychwanegol. Bydd Rave Nation yn dod â chwsmeriaid yn uniongyrchol o'r Weriniaeth Tsiec i'r ŵyl gerddoriaeth dan sylw am yr un pris â phe baent yn teithio mewn car, ond gyda'r fantais o deithio gyda phobl o'r un meddylfryd.

Geiriau olaf am y datblygiad

Roedd y broses datblygu busnes yn un hir a blinedig. Ni allaf gyfrif cyfanswm yr amser a dreuliais i'n gweithio. Er bod gennyf rai deunyddiau'n barod cyn dechrau'r tymor hwn, rwyf wedi gweld newid cadarnhaol a chynnydd unwaith y dechreuais i weithio ar y modiwl entrepreneuriaeth gymhwysol (hoffwn ei argymell i bawb oherwydd gall eich helpu'n fawr gyda'ch busnes, yn enwedig os mai Dave Bolton yw eich mentor). Yn sydyn, roedd yn rhaid i mi gyflwyno canlyniadau newydd bob wythnos a wnaeth fy helpu'n fawr gyda'm hethneg waith. Mae'n iawn os na allwch gyflawni tasg ar amser weithiau, ond unwaith nad ydych yn ddigon cadarn arnoch chi'ch hun/eich tîm ac yn gadael i hyn ddigwydd yn fynych, bydd yn arfer gwael iawn. Un darn o gyngor yr hoffwn ei roi i unrhyw un sy'n meddwl dechrau busnes - nodwch derfynau amser a cheisiwch eu cyflawni nhw.

 

Ysgrifennwyd y Blog gan: Jan Mestek, myfyriwr BSc mewn Rheoli Busnes gyda blwyddyn mewn diwydiant
Dyddiad cyhoeddi: 02/11/2021