Motiv8

Mae diwrnodau Motiv8 yn addas i ddisgyblion Blwyddyn 8 yn ystod tymor olaf y flwyddyn academaidd. Mae Motiv8 yn cyflwyno llwybrau addysgol sy'n arwain at yrfaoedd i ddisgyblion ac yn eu hannog i siarad am eu cryfderau addysgol a phersonol, yn ogystal ag unrhyw uchelgeisiau neu ddyheadau sydd ganddynt am y dyfodol. Mae'r diwrnod yn cael ei gynllunio fel cyfres o weithdai lle mae grwpiau'n trafod syniad ehangach y byd gwaith sydd o'u cwmpas. Mae'r sgiliau sy'n cael eu hybu ar y diwrnod yn cynnwys gwaith grŵp, sgiliau holi, creadigrwydd, sgiliau cyflwyno a llafaredd.

"Roedd yr holl ddisgyblion yn ymrwymo'n llawn i'r profiad ac yn ei fwynhau. Dangosodd nifer o'r disgyblion agwedd wahanol ar eu personoliaethau. Cyfrannodd llawer at y trafodaethau a fyddai fel arfer yn swil iawn wrth gyfathrebu ag eraill. Diwrnod ardderchog."   Athro o Ysgol Gyfun Sandfields

Diwrnodau Rhagflas Blwyddyn 8 

Mae diwrnodau blasu yn cynnig cyfle i fyfyrwyr Blwyddyn 8 ymweld â’r campws am ddiwrnod llawn neu hanner diwrnod a chymryd rhan mewn gweithdai pwnc penodol hwyliog a rhyngweithiol.

Diwrnodau ACE

Yn ystod Diwrnod ACE (Anelu at Addysg Coleg), mae myfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gweithio'n agos gyda disgyblion Blwyddyn 9 ar amrywiaeth o weithgareddau sydd â'r nod o gynyddu dyheadau addysgol a'u hymwybyddiaeth o fywyd yn y brifysgol. Mae'r disgyblion yn cael taith o'r campws, gan ddysgu am brofiadau myfyrwyr yn y brifysgol a'r cyfleoedd sy'n deillio o ennill gradd.

Sylwadau Disgyblion:

"Mae'r profiadau ges i heddiw yn anhygoel ac yn ddiddorol iawn. Mwynheais i ddysgu beth rydych chi'n ei wneud fel myfyriwr. Byddwn i wrth fy modd yn mynd i'r brifysgol nawr." Disgybl o Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

"Mae'r diwrnod rhagflas hwn wedi fy ngwneud yn fwy hyderus am eisiau dod i'r brifysgol. O'r blaen, roeddwn i'n dychryn wrth feddwl am dyfu i fyny ond, ar ôl heddiw, dyw e ddim yn swnio mor wael a dwi'n methu aros." Disgybl o ysgol Gyfun Glan Afan.

Sylwadau'r Athrawon:

"Ardderchog. Mae'r myfyrwyr yn datblygu perthnasoedd ymddiriedus â'r disgyblion, sy'n rhoi cyfle i'r disgyblion ddangos eu doniau drwy gynhyrchu gwaith o safon uchel. Mwynhaodd y disgyblion gael blas ar fywyd  yn y brifysgol. Roedd y gweithgareddau'n addas iawn i alluoedd y disgyblion a chawson nhw i gyd gyfle i gyfrannu." Athro o Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Rhif Ffôn: 01792 602 128

E-bost