Mae Ymestyn yn Ehangach (https://www.swansea.ac.uk/reaching-wider/) yn chwilio am fyfyrwyr ôl-raddedig sy’n barod i ddefnyddio eu sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd i ddatblygu a chyflwyno sesiynau yn ymwneud â’u maes i ddisgyblion mewn ysgolion a cholegau lleol.

Nod Ymestyn yn Ehangach yw codi dyheadau drwy annog mwy i feddwl am addysg uwch a chwalu’r rhwystrau i astudio ar lefel addysg uwch. Gyda’ch help chi, gallai’r sesiynau roi ysbrydoliaeth go iawn i’r genhedlaeth nesaf. Gall y gwaith amrywio o sesiynau unigol i brosiectau a gyflawnir dros gyfres o wythnosau a gallwch addysgu mewn amrywiaeth eang o amgylcheddau, megis ysgolion lleol, ar y campws, neu mewn grŵp cymunedol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fyfyrwyr ôl-raddedig weithio ar ystod o brosiectau â thâl, a byddwch yn cael cymorth i ddatblygu’r gweithdai/sesiynau i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer yr oedran. Dyma ffordd wych o gymryd mwy o ran mewn gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn rhoi hwb i’ch gyrfa.

Cysylltwch â Ben Hyde os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu syniadau.