Diwrnodau STAR

Prif nod Diwrnodau STAR (Awgrymiadau Astudio i Gyflawni Canlyniadau) yw darparu technegau paratoi'n llwyddiannus ar gyfer arholiadau TGAU i'r myfyrwyr. Mae'r pynciau'n cynnwys rheoli amser a chynllunio adolygu, deall cwestiynau arholiad a thechnegau adolygu.

Mae sesiynau hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn ar gael ar gyfer grwpiau o 20-40 disgybl ac, yn ddelfrydol, cânt eu cynnal ar gampws prifysgol. Mae grwpiau bach o ddisgyblion yn gweithio drwy lyfrynnau gyda myfyriwr sydd yn y brifysgol ar hyn o bryd a bydd cyfle i drafod llwybrau posib ar ôl eu harholiadau TGAU.

"Roedd y disgyblion Blwyddyn 11 yn gwerthfawrogi'r cwrs yn fawr. Canolbwyntiodd ar y llyfrau roedden nhw'n eu hastudio ar gyfer TGAU gan gynnig y llwybr, y sgiliau a'r cymorth i chwilio am ofynion yr arholwr er mwyn llunio atebion da i gwestiynau penodol. Yn ogystal â hyn, roedd yr wybodaeth yn cael ei darparu gan rywun heblaw am eu hathrawon." Athro o Ysgol Gyfun Gellifedw.

"Roedd y diwrnod cyfan yn drefnus iawn. Roedd yr holl ddisgyblion yn gwybod beth roedden nhw'n ei wneud a phryd. Roedd yr holl ddisgyblion yn ymddiddori yn y tasgau ac yn canolbwyntio arnyn nhw. Dywedodd llawer o'r disgyblion eu bod wedi dysgu rhywbeth ac y byddan nhw'n defnyddio eu llyfrynnau dro ar ôl tro wrth adolygu." Athro o Ysgol Gyfun Gymunedol Cwrt Sart.

"Mae wedi bod yn ddiwrnod defnyddiol dros ben ac, i rywun fel fi, sydd ddim yn dda iawn am baratoi, mae wedi bod yn gymorth mawr." Disgybl o Ysgol Gyfun Ystalyfera.

Rhagflas ar Fywyd yn y Brifysgol

Mae gweithdai a sesiynau rhagflas ar bynciau penodol yn cael eu cynnig ar gampws i ysgolion drwy gydol y flwyddyn. Mae pynciau diweddar wedi cynnwys dyraniad, Peirianneg, Gwyddoniaeth Feddygol, Celf a Dylunio, Ysgrifennu Creadigol, y Gyfraith, Mentergarwch a'r Clasuron. Gellir cynllunio gweithdai pwrpasol sy'n manteisio ar ehangder yr arbenigedd sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant os hoffai ysgol ganolbwyntio ar faes penodol.

Mae'r diwrnodau hyn, sy'n ychwanegu at y cwricwlwm, yn dangos i ddisgyblion sut brofiad yw astudio pwnc yn y brifysgol. Cânt gyfle i ddefnyddio cyfarpar ac adnoddau sy'n benodol i'r pwnc gan weithio gyda darlithwyr a myfyrwyr prifysgol.

"Roedd y sesiynau'n ardderchog a gwnaethon nhw danio diddordeb y disgyblion. Roedd y sesiynau hefyd yn ardderchog o ran darparu dysgu 'newydd' sy'n berthnasol i arholiadau. Mae'r diwrnod hwn wedi bod yn hynod fuddiol i'n disgyblion. Bydd yn eu cynorthwyo wrth ddysgu yn yr ysgol ac yn hwyluso eu haddysg."  Athro o Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

 

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Rhif Ffôn: 01792 602 128

E-bost