Datblygu eich Sgiliau
Yn Abertawe, rydym yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau a'ch doniau
Mae Gwasanaethau Datblygu a Hyfforddi (GDH) yn cynnig cyrsiau a gweithdai drwy gydol y flwyddyn â'r nod o gefnogi a gwella sgiliau proffesiynol.Gellir cael gwybodaeth am gyrsiau yma, ac mae hysbysiadau e-bost rheolaidd ar draws y campws hefyd i'ch diweddaru chi.
Mae digwyddiadau'n cynnwys meysydd sgiliau cyffredinol, megis effeithiolrwydd personol, sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, a rheoli timoedd, yn ogystal â hyfforddiant pwrpasol ar gyfer y gwaith megis cymorth cyntaf, ysgrifennu adroddiadau a recriwtio a dethol.
Mae Gwasanaethau Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu (REIS) yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i helpu i sicrhau bod eich ceisiadau cyllid neu grant wedi'u strwythuro cyn i chi eu cyflwyno i i uwchafu eich siawns o lwyddo.
Mae GDH yn gweithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr hyfforddiant ledled y campws, megis ISS, Cynaliadwyedd a'r Swyddfa Ddiogelwch i greu adnodd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol neilltuol i atgyfnerthu'ch dyheadau ymchwil a gyrfa.Mae Abertawe'n brifysgol flaengar ac uchelgeisiol, gyda gwir ddiddordeb mewn datblygu'ch dawn.
Mae'n holl gyrsiau hyfforddi wedi'u mapio yn erbyn Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae (RDF). Mae'r RDF yn cynnwys 4 maes neu "barth" dysgu a amlinellir isod. Mae gan wefan Vitae ragor o wybodaeth am y RDF. Os hoffech gyngor ar sut y mae cwrs penodol yn mapio i'r RDF, cysylltwch â ni.
Datblygu eich doniau proffesiynol
Mae datblygiad proffesiynol yn agwedd ac yn broses. Mae cynifer o ffyrdd o ddatblygu'ch sgiliau a'ch doniau â ffyrdd o ddysgu. Yr hyn sy'n allweddol yw'r dyhead i fod yn well!
Mae gwahanol ymagweddau'n cyd-fynd â sefyllfaoedd a phobl wahanol, a'r ystod eang o sgiliau y gallai fod angen i chi eu datblygu.
Peidiwch â chymryd yn ganiataol y gellir datblygu'r holl sgiliau yn yr un ffordd oherwydd eich bod chi'n ymchwilydd sy'n ddisglair ac yn ddeallus a'ch bod chi'n gyfarwydd â dysgu technegau neu ymagweddau newydd.
Cymerwch gipolwg ar y Fframwaith Datblygu Ymchwilydd mewn mwy o fanylder i ddarganfod galluoedd y mae Cynghorau Ymchwil y DU a chyflogwyr masnachol/diwydiannol am bob ymchwilydd fod yn anelu at eu datblygu ac i ystyried a ydych yn cwrdd â'u gofynion.
Mae'r technegau 'meddal' hollbwysig sy'n cynnwys sgiliau rhyngbersonol, gweithio mewn tîm a rheoli pobl ymhlith y rhai y gellir eu dysgu'n fwyaf effeithiol drwy gyfuniad o wahanol ffyrdd. Mae'r cymysgedd delfrydol yn cynnwys peth damcaniaeth gefndirol, hyfforddiant pwrpasol ac yn bennaf oll, mynd ati i roi'r holl bethau rydych wedi'u dysgu ar waith.
Parth B
Mae'r parth hwn yn cynnwys rhinweddau personol, gyrfa a sgiliau hunan-reoli sydd eu hangen i berchnogi ac ymgymryd â datblygiad proffesiynol.
B1 - Rhinweddau Personol: Brwdfrydedd, Dyfalbarhad, Uniondeb, Hunanhyder, Hunan-fyfyrio, Cyfrifoldeb]
B2 - Hunan-reoli: Paratoi a blaenoriaethu, Ymrwymiad i ymchwil, Rheoli amser, Ymatebolrwydd i newid, Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
B3 - Datblygiad proffesiynol a gyrfa: Rheoli gyrfa, Datblygiad proffesiynol parhaus, Ymatebolrwydd i gyfleoedd, Rhwydweithio, Enw Da a pharch
Parth A
Mae'r parth hwn yn berthnasol i'r galluoedd gwybodaeth a deallusol y mae eu hangen i allu cyflawni ymchwil ragorol.
A1 - Sylfaen Wybodaeth: Gwybodaeth Pwnc, Dulliau Ymchwilio, Chwilio am Wybodaeth, Llythrennedd a Rheoli Gwybodaeth, Ieithoedd, Llythrennedd a Rhifedd Academaidd
A2 - Galluoedd Gwybyddol: Dadansoddi, Cyfuno, Meddwl yn Feirniadol, Gwerthuso, Datrys Problemau
A3 - Creadigrwydd: Meddwl Chwilfrydig, Mewnwelediad Deallusol, Arloesi, Llunio Dadl, Risg Ddeallusol
Parth C
Mae'r Parth hwn yn ymwneud â'r wybodaeth o'r safonau, y gofynion a'r ymddygiad proffesiynol sydd eu hangen i reoli ymchwil yn effeithiol.
C1 - Ymddygiad proffesiynol: Iechyd a diogelwch, Moeseg, egwyddorion a chynaliadwyedd, Gofynion cyfreithiol, IPR a hawlfraint, Parch a chyfrinachedd, Priodoli a chyd-awduriaeth, Arfer priodol
C2 - Rheoli ymchwil: Strategaeth ymchwil, Cynllunio a chyflawni prosiectau, Rheoli risg
C3 - Cyllid, ariannu ac adnoddau: Cynhyrchu incwm a chyllid, Rheolaeth ariannol, Isadeiledd ac adnoddau
Parth D
Mae'r parth hwn yn ymwneud â'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ymgysylltu â'r cyd-destun academaidd, cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac ehangach, dylanwadu arno a'i effeithio.
D1 - Gweithio gydag eraill: Colegoldeb, Gweithio mewn Tîm, Rheoli Pobl, Goruchwylio, Mentora, Dylanwad ac arweinyddiaeth, Cydweithrediadau, Cydraddoldeb ac amrywiaeth
D2 - Cyfathrebu a lledaenu gwybodaeth: Dulliau cyfathrebu, cyfryngau cyfathrebu, Cyhoeddi
D3 - Ymgysylltu ac effaith: Addysgu, Ymgysylltu â'r Cyhoedd, Menter, Polisi, Cymdeithas a diwylliant, Dinasyddiaeth fyd-eang