Cynhyrchir Tablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2023 gan ddadansoddwyr addysg uwch byd-eang Quacquarelli Symonds.Er mwyn rhoi'r tablau at ei gilydd, asesodd QS enw da academaidd, enw da ymysg cyflogwyr ac effaith ymchwil, a rhestrodd Ysgol y Gyfraith ymysg y 150 o ysgolion gorau yn y byd am y tro cyntaf yn 2023.

Dywedodd yr Athro Alison Perry, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, wrth drafod y canlyniadau,

"Dyma gyflawniad campus sydd wrth wraidd enw da'r Ysgol fel sefydliad byd-eang ac yn gydnabyddiaeth wych o’r ymchwil a'r effaith ragorol a gyflwynir gan ein cydweithwyr yn yr Ysgol. Rydym mor falch ein bod ni wedi gwella'n sylweddol yn enwedig o ran yr agweddau ar yr arolwg ynghylch cydnabyddiaeth academaidd ac enw da ymysg cyflogwyr.

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig sydd â’r nod o baratoi ein myfyrwyr i ddiwallu anghenion sy’n newid yn gyson y proffesiynau cyfreithiol a rhai cysylltiedig ac mae'r canlyniad hwn yn dangos ein bod ni'n llwyddo i gyrraedd y nod hwnnw."

Daw hyn yn ystod cyfnod pan ddringodd Prifysgol Abertawe 118 o leoedd, sy'n syfrdanol, i fod yn gydradd 307fed yn rhifyn diweddaraf Tablau Prifysgolion y Byd QS 2024 - sy'n dangos bod y Brifysgol ac Ysgol y Gyfraith yn gwneud cynnydd ardderchog ym mhob maes, a chydnabyddir hyn yn genedlaethol ac yn rhyngwladol bellach.

Rhannu'r stori