Cyflwynwyd prif ganfyddiadau'r prosiect ymchwil - Yswiriant Risgiau Seiber: Meithrin Gwytnwch yng Nghymru, a ariannwyd gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru (CCAUC), ar 28 Mehefin yng Nghaerdydd i gynulleidfa a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr busnesau bach a chanolig, llunwyr polisi, arbenigwyr seiberddiogelwch a chynrychiolwyr o'r farchnad yswiriant seiber.

Cyflwynodd nifer o arbenigwyr o'r farchnad yn y digwyddiad hefyd, sef Thomas Atkinson (Brit Insurance); Celso De Azevedo (Enterprise Chambers); Gareth Bateman (Marsh); Pablo Constenla (Marsh); Tom Draper (Coalition); Yr Athro Ozlem Gurses (Coleg y Brenin Llundain); Mark Sullivan (Thomas Carroll); Damon Rand (Purecyber); Janthana Keenprakhamrol (Tapology) a'r Athro Siraj Shaikh (Yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg, Prifysgol Abertawe), gan gynnig cyfle gwych i drafod sut gellir integreiddio seiberddiogelwch ac yswiriant seiber.

Mae'r prosiect, dan arweiniad yr Athro Leloudas a'r Athro Soyer a'r Swyddog Ymchwil Ms Angela Nicholas (gyda chymorth hefyd gan y cynorthwywyr ymchwil Ms Nicole Dele-Alufe a Dr Alicia Mackenzie), wedi gweithio gyda busnesau bach a chanolig yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ddeall eu hagwedd at yswiriant risgiau seiber a gwerthuso'r newidiadau y gall fod eu hangen ym mholisïau risg seiber er mwyn sicrhau y gallant fod o gymorth mwy ymarferol i fusnesau bach a chanolig a'u bod yn cael eu defnyddio'n fwy effeithiol fel dull lliniaru risg.

Fel rhan o'r prosiect hwn, cynhaliwyd digwyddiadau hyfforddi llwyddiannus ledled Cymru (Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam) ar y cyd â phartneriaid, Purecyber, Thomas Carroll Group Plc a'r Ffederasiwn Busnesau Bach. Cyhoeddwyd canfyddiadau academaidd y prosiect yn ddiweddar yn yr Edinburgh Law Review (2023).

Rhannu'r stori