Fel rhan o'i fentrau cyflogadwyedd, trefnodd y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol (IISTL) ginio rhwydweithio a hyfforddiant yn swyddfa Steamship Mutual yn Llundain ar gyfer myfyrwyr ar y cwrs LLM Cyfraith Llongau a Masnach.

Yn ystod yr ymweliad, cafodd myfyrwyr y cyfle i fynd i sawl sesiwn a ddarparwyd gan staff Steamship ar agweddau amrywiol ar fywyd yswiriant diogelu ac indemnio, gan gynnwys ymdrin â hawliadau, gwarantu, ac atal colledion.

Hefyd, cafodd myfyrwyr y cyfle i drafod â staff presennol y clwb a chwrdd â rhai o gyn-fyfyrwyr uchel eu parch niferus yr IISTL yn y sector. Dyma gyfle gwych ac unigryw i'r bobl ifanc ddisglair hyn, wrth iddynt glywed safbwyntiau nad ydynt ar gael yn aml y tu allan i'r diwydiant.

Ar ôl y daith, meddai Dr Tabetha Kurtz-Shefford, Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglenni LLM Cyfraith Llongau a Masnach:

“Hoffen ni ddiolch i'r rhai hynny yn Steamship Mutual a neilltuodd amser yn eu hamserlenni prysur i roi profiad dysgu mor arbennig i'n myfyrwyr, ac am roi arweiniad amhrisiadwy iddynt ynghylch yr hyn y gallai clwb chwilio amdano yn ei ddarpar gyflogeion.

Hoffen ni ddiolch yn arbennig i Annie Stow ac IG Group am ein helpu i drefnu'r daith anhygoel hon. Ein nod yn Abertawe yw cynnig addysg gyfreithiol gyfoes i'n myfyrwyr ac mae'r math hwn o deithiau’n cynnig cyfle gwych i'w cysylltu â'r diwydiannau morgludiant ac yswiriant.”

Rhannu'r stori