Mae gan y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (yr IISTL) yn Abertawe gysylltiadau agos â sefydliadau yn y sectorau morgludiant a masnach, sydd yn aml yn cynnig manteision sylweddol i fyfyrwyr.

Yn ddiweddar, cafodd chwe myfyriwr y fraint fawr o gael eu gwahodd gan Seatrade Maritime i fynd i'w cynhadledd flynyddol o fri ar Achub a Llongddrylliadau. Canolbwyntiodd yr agenda ar y diweddaraf gan y farchnad o ran contractau cyfreithiol penodol (LOF, OPA-90, diwygio cytundebau symud llongddrylliadau BIMCO), pwysigrwydd cynyddol agweddau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu yn yr ymateb brys a’r gweithrediadau symud llongddrylliadau nawr ac yn y dyfodol, y proffil risg sy'n gysylltiedig â thanwyddau amgen a pharodrwydd y sector amdanynt, a dyfodol y gweithlu yn y dirwedd forol newidiol.

"Mae ein myfyrwyr yn astudio'r pynciau sy'n cael eu trafod yn y gynhadledd hon yn fanwl iawn fel rhan o'u graddau Meistr, ond does dim byd gwell na dysgu'n uniongyrchol gan yr ymarferwyr proffesiynol. Roedd y digwyddiad yn brofiad amhrisiadwy i'r rhai a oedd yn bresennol," meddai Dr Kurtz-Shefford (Dirprwy Gyfarwyddwr Rhaglenni LLM Morgludiant a Masnach). "Rydym yn ddiolchgar iawn i Seatrade Maritime am roi cyfle mor unigryw a manteisiol i'n myfyrwyr."

Rhannu'r stori