Mae tri myfyriwr o Ysgol y Gyfraith Abertawe wedi cael llwyddiant mawr yn ddiweddar yn y British Inter-University Commercial Awareness Competition (BIUCAC).

BIUCAC yw'r gystadleuaeth ymwybyddiaeth fasnachol fwyaf yn y DU. Cafodd ei sefydlu i gefnogi myfyrwyr y gyfraith hynod dalentog sy'n astudio mewn prifysgolion nad ydynt yn rhan o grŵp Russell, ac yn cynnig platfform iddynt arddangos eu doniau i gwmnïau cyfreithiol blaenllaw.

Roedd cynrychiolwyr Ysgol y Gyfraith Abertawe'n cynnwys tri myfyriwr y gyfraith; Naomi Ninan, Saman Salamat a Mubashir Syed. Perfformiodd y tri ohonynt yn wych yn y gystadleuaeth; dim ond 24 wnaeth gymhwyso ar gyfer y rownd derfynol allan o oddeutu 2,200 o gystadleuwyr ac roedd Abertawe'n cynrychioli 3 o'r rhain gyda 2 yn cymhwyso ar gyfer y 6 yn y rownd derfynol.

Yn ogystal â hynny, enillodd myfyrwyr Abertawe wobrau'r cynllun gwyliau sydd ar gael yn y gystadleuaeth a chymorth mentor personol gyda chwmni'r cylch hudol, Clifford Chance.

Dyma'r canlyniadau:

  • Daeth Naomi'n gyntaf yn gyffredinol gan ennill cynllun gwyliau gyda Travers Smith
  • Daeth Mubashir yn ail yn gyffredinol, gan ennill cynllun gwyliau gyda Fieldfisher
  • Daeth Saman yn y 24ain safle'n gyffredinol, gan ennill sesiynau personol gyda chwmni Partner a Recriwtio Graddedigion Clifford Chance

Ar ôl y gamp ardderchog gan fyfyrwyr y gyfraith Abertawe, dywedodd sefydlydd y gystadleuaeth, Denis Viskovich, faint o argraff yr oedd eu perfformiadau wedi'i chael a bod sawl un o'r prif gwmnïau noddi wedi cymryd sylw yn y myfyrwyr o Brifysgol Abertawe, gan obeithio y ceir cyfleoedd rhagorol i fyfyrwyr a graddedigion y dyfodol.

Yn siarad am gyflawniadau'r tîm, meddai Matthew Parry, Arweinydd y Gystadleuaeth Sgiliau yn Ysgol y Gyfraith:

"Mae ymwybyddiaeth fasnachol yn rhan hanfodol o sgiliau'r gyfraith ac roedd perfformiad Naomi, Mubashir a Saman yn dangos eu dealltwriaeth ragorol o'r realiti hwn. Rydym yn falch iawn o'u cyflawniadau sy'n dangos y swm enfawr o waith a'u greddfau fel datryswyr problemau. Yn ogystal â'i berfformiad ei hun, mae Mubashir, Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Prifysgol Abertawe, wedi bod yn allweddol i annog cyfranogiad yn y gystadleuaeth hon ac mae'r canlyniadau'n gyflawniad gwych ar gyfer y myfyrwyr, y gymdeithas a'r Brifysgol".

Rhannu'r stori