Mae tîm addysgu Masnach a Morgludiant Abertawe'n deall pwysigrwydd bod myfyrwyr yn datblygu eu cyfleoedd cyflogadwyedd a rhwydweithio law yn llaw â'u hastudiaethau.I'r perwyl hwn, maent yn teilwra eu hymagwedd at gyflogadwyedd i ddiwallu anghenion unigryw pob un o'u carfannau.

Aeth ail daith gyflogadwyedd eleni â myfyrwyr IISTL i Adeilad Cadeirlan Llundain, lle cawsant wahoddiad gan gwmni cyfraith forwrol arbenigol, Tatham Macinnes LLP.  Rhoddwyd sgwrs iddynt ar sawl pwnc gwahanol, gan gynnwys pa fathau o hawliadau y mae eu cyfreithwyr yn eu hwynebu'n ddyddiol, a pha rinweddau y mae eu hangen i weithio i'w cwmni.

Cafodd y myfyrwyr gyfle i fod yn rhan o drafodaethau â'r Partner Rheoli, Alex Macinnes, a chyda chyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe sy'n gweithio i'r cwmni ar hyn o bryd (Ashlee Xi, cyfreithiwr a ymunodd â Tatham Macinnes fel intern, a pharagyfreithiwr, Edmundo Deville). Rhoddwyd arweiniad a gwybodaeth ddiddorol iddynt ar yrfaoedd posib iddynt yn y dyfodol, gan ymateb i gwestiynau na all neb ond pobl sy'n gweithio yn y diwydiant eu hateb.

Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd un o gyfarwyddwyr cyflogadwyedd IISTL, yr Athro George Leloudas:

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Tatham Macinnes am gymryd yr amser o'u gwaith prysur i siarad â'n myfyrwyr.  Roedd yn fonws ac yn bleser go iawn gweld pa mor dda y mae ein cyn-fyfyriwr yn datblygu. Nid budd personol yn unig a gafwyd o hyn, ond mae'n dangos i'r myfyrwyr presennol yr hyn y gallant ei gyflawni os byddant yn cyflawni eu potensial llawn yn Abertawe.

Rydym yn cymryd cyflogadwyedd o ddifri yn Abertawe a chyfuniad ein hymdrechion ni ac ymdrechion y myfyrwyr sy’n sicrhau bod y rhan fwyaf o'n graddedigion yn mynd ymlaen i gael cyflogaeth yn y sectorau morgludiant, yswiriant, ynni, bancio, eiddo deallusol ac, yn fwy diweddar, technoleg gyfreithiol (masnachol)". 

Rhannu'r stori