Mae Bloomfield LLP yn gwmni cyfreithiol sy'n arbenigo mewn cyfraith fasnachol a datrys anghydfodau. Mae ei brif swyddfa yn Nigeria ac mae ganddo nifer o gysylltiadau rhyngwladol. Yn y blynyddoedd diweddar, mae'r cwmni wedi ehangu'n gyflym ac ystyrir yn eang ei fod yn un o'r cwmnïau cyfreithiol arbenigol gorau yn Nigeria.

Bum mlynedd yn ôl, ymrwymodd Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe i gytundeb â Bloomfield i lansio gwobr flynyddol a chyfle interniaeth ar gyfer y myfyriwr LLM gorau o Nigeria sy’n astudio cyfraith fasnachol, forwrol, eiddo deallusol, ac olew a nwy yn Abertawe. Gwobr ariannol yw hon sydd hefyd yn cynnwys elfen o hyfforddiant gyda Bloomfield.

Enillydd y wobr eleni yw MaryAnn Nnamani. Graddiodd MaryAnn o Brifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Talaith Enugu a bu'n gweithio fel cyfreithiwr yn Nigeria am ddegawd cyn cofrestru ar y rhaglen LLM mewn Eiddo Deallusol, Arloesi a'r Gyfraith.

Yr wythnos hon, cwblhaodd MaryAnn ei LLM gan ennill rhagoriaeth, a chyflwynwyd y wobr iddi gan yr Athro Soyer (Cyfarwyddwr Cyfraith Llongau a Masnach) a Dr Kurtz-Shefford (Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfraith Llongau a Masnach) ar ran Bloomfield LLP.

Ar ôl y seremoni, meddai'r Athro Soyer:

"Mae MaryAnn yn unigolyn diwyd, caredig a dawnus. Rwy'n hyderus y bydd ganddi ddyfodol gwych mewn agweddau arbenigol ar gyfraith fasnachol (eiddo deallusol a thechnoleg). Rydym hefyd yn ddiolchgar i Bloomfield LLP am gefnogi'r genhedlaeth newydd o gyfreithwyr."

Rhannu'r stori