Mae Laurence Cooper, a raddiodd yn y Gyfraith ac sydd bellach yn astudio am MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth, wedi cael rôl fel Dadansoddwr Cydymffurfiaeth Seiberddiogelwch yn BAE Systems  Plc, cwmni arfau, diogelwch ac awyrofod Prydeinig sy'n gweithredu mewn nifer o wledydd ac sydd â'i bencadlys yn Llundain.

Roedd BAE Systems yn un o brif noddwyr Her Strategaeth Cyber 9/12, sef cystadleuaeth polisi a strategaeth seiber lle mae myfyrwyr yn cystadlu i lunio polisïau a dadansoddiadau sy'n ymateb i drychineb seiber dychmygol.

Roedd Laurence yn aelod o'r tîm o Brifysgol Abertawe a ddaeth yn y 10 uchaf yng Nghystadleuaeth 2023 yn ddiweddar, gan hefyd ennill y wobr am y Gwaith Tîm Gorau.

O ganlyniad i gysylltiadau a wnaed yn y gystadleuaeth a nerth ei berfformiad, gwahoddwyd Laurence i gyfweliad am y rôl flaenllaw yn BAE. Bu'n llwyddiannus yn yr ymdrech hon a bydd yn dechrau ei rôl yn fuan ar ôl cwblhau ei radd Meistr.

Wrth siarad am ei benodiad, meddai Laurence:
"Dwi wedi ymddiddori mewn cyfrifiadureg ers amser hir, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at gyfuno fy nghefndir cyfreithiol a fy sgiliau seiber wrth ddechrau fy swydd ddelfrydol yn BAE Systems. Mae'r cyfleoedd sydd wedi bod ar gael ar y rhaglen MA Seiberdroseddu a Therfysgaeth wedi cael effaith anhygoel ar fy ngyrfa ac edrychaf ymlaen at weithio yn niwydiant seiberddiogelwch, maes cyffrous a hollbwysig sy'n datblygu'n gyflym.”

Rhannu'r stori