Enwebwyd Cymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith Prifysgol Abertawe mewn nifer o gategorïau yng Ngwobrau Cymdeithasau Myfyrwyr y Gyfraith LawCareers.Net.

Y rhai hynny a enwebwyd am y gwobrau yw'r cymdeithasau gorau o ran myfyrwyr y gyfraith yn y DU, sy'n anelu at ragoriaeth yn eu gweithgareddau a'r cyfleoedd y maent yn eu cynnig i'w haelodau.

Cafwyd cyflwyniadau gan 32 o gymdeithasau’r gyfraith ar gyfer y gwobrau yn 2024, a chafwyd 18,000 o bleidleisiau gan eu haelodau.

Mae Cymdeithas y Gyfraith Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwebu yn y categorïau canlynol:

  • Cymdeithas y Gyfraith Orau'n Gyffredinol
  • Cymdeithas y Gyfraith â'r Llywydd Gorau (Mubashir Syed)
  • Cymdeithas Orau am Ymwybyddiaeth Fasnachol

Mae gan Gymdeithas y Gyfraith Abertawe dri phrif nod: meithrin cymuned, cynnig cyfleoedd i rwydweithio a datblygu cyflogadwyedd ei haelodau. Ochr yn ochr â hyn, mae'r Gymdeithas yn ymrwymo i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol rheolaidd, gan gydweithredu â nifer o gwmnïau cyfreithiol, a rhoi cymorth i aelodau wrth ddilyn gyrfa yn y gyfraith.

Mae'r Gymdeithas wedi derbyn yr anrhydeddau diweddar hyn er bod ganddi bwyllgor llawer llai na'r rhan fwyaf o'r enwebeion eraill. Mae aelodau'r pwyllgor yn cynnwys:

  • Mubashir Syed (Llywydd, myfyriwr ym mlwyddyn olaf LLB)
  • Rashmika Sama (Ysgrifennydd, myfyriwr yn ail flwyddyn LLB)
  • Norma O’Miller (Trysorydd, myfyriwr ym mlwyddyn olaf LLB)
  • Charlotte Gordon (Ysgrifennydd Cymdeithasol, myfyriwr ym mlwyddyn olaf LLB)
  • Yusuf Serang (Cydlynydd Allgymorth, myfyriwr ym mlwyddyn olaf LLB)

Gan drafod ei enwebiad ei hun, a'r rhai hynny a gafwyd gan y Gymdeithas yn ehangach, meddai Mubashir Syed, Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Prifysgol Abertawe:

“Mae cael ein cydnabod yng Ngwobrau Cymdeithasau Myfyrwyr y Gyfraith uchel eu bri LawCareers.Net am fod ymysg y cymdeithasau gorau o ran myfyrwyr y gyfraith yn y DU yn cadarnhau ein twf aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ein tri enwebiad yn dangos gwaith caled ein pwyllgor cynnil ond penderfynol, ac ymrwymiad a gwerth cyfatebol ein haelodau. Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi creu cymuned wirioneddol arbennig yma yn Abertawe.

Rwy'n teimlo'n hynod emosiynol a breintiedig am fy nghyfraniad at ein llwybr ar i fyny a minnau'n Llywydd Cymdeithas y Gyfraith ers dwy flynedd. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr enwebiadau twymgalon ein haelodau, ac aberthau ac ymdrechion helaeth fy nghydweithwyr ar y pwyllgor. Bydda i'n parhau i wneud fy ngorau i ddarparu gwerth i'n carfan hollol haeddiannol.”

Rhagor o wybodaeth am Gymdeithas y Gyfraith Prifysgol Abertawe

Rhannu'r stori