Rydym yn ymfalchïo yn llwyddiannau ein myfyrwyr yn Abertawe. Mae ein cyrsiau'n ddwys ac yn heriol, ond rydym yn rhoi pwyslais mawr ar gefnogi ein myfyrwyr, yn academaidd ac o ran cyflogadwyedd.

Rydym yn falch bod HFW, cwmni cyfraith fasnachol rhyngwladol blaenllaw, o'r un farn â ni. Ers mwy na hanner degawd, mae'r cwmni wedi rhoi tair gwobr ar wahân i'n myfyrwyr, er mwyn adlewyrchu amrywiaeth eu gwaith ym meysydd morgludiant a masnach.

Roedd yr enillwyr haeddiannol eleni ymysg y goreuon oll, gan sgorio'r marc uchaf yn eu modiwlau perthnasol:

  • Ms Farah Binti-Mahadi yw enillydd gwobr HFW am Gyfraith Olew a Nwy
  • Mr Md Nazmus Sakib yw enillydd gwobr HFW am Gyfraith Cludo Nwyddau, a
  • Mr Alex Papazios yw enillydd gwobr HFW am Gyfraith y Morlys.

Cyflwynwyd y gwobrau yn Llundain gan Richard Neylon, sy'n un o raddedigion Abertawe ac sy’n bartner yn y cwmni. Aeth yr Athro Soyer, Dr Amaxilati, Ms Nicholas a Dr Kurtz Shefford i'r seremoni wobrwyo gydag enillwyr y gwobrau.

Ar ôl y digwyddiad, meddai'r Athro Soyer:

“Rydyn ni'n estyn llongyfarchiadau gwresog i'n myfyrwyr ac yn diolch i HFW am ei gefnogaeth werthfawr iawn a pharhaus. Mae'r cwmni'n gwneud gwaith gwych drwy fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr morwrol ac ynni.

“Rwyf hefyd yn diolch i aelodau fy nhîm: mae'r ffaith bod sawl un ohonyn nhw wedi ymuno â ni yn Llundain i fod yn rhan o ddiwrnod mawr ein henillwyr yn dangos eto ein hymrwymiad i'n myfyrwyr yn Abertawe.”

Rhannu'r stori