Yn Abertawe, ar wahân i gynnig addysg gyfreithiol ôl-raddedig gyfoes sy'n canolbwyntio ar ymarfer, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr ym mhob ffordd y gallwn, i’w galluogi i gyflawni eu potensial llawn.

Er enghraifft, rydym yn cynnig modiwl 'Cyflogadwyedd' pwrpasol dewisol a addysgir gan yr Athro Soyer a'r Athro Leloudas, ochr yn ochr â nifer o siaradwyr gwadd bob blwyddyn. Rydym hefyd yn cynnig nifer o deithiau addysgol a mentrau dadlau mewn ffug lys barn ar gyfer ein myfyrwyr LLM.

Mae'r mentrau hyn, ynghyd â'r ffaith bod myfyrwyr LLM Abertawe yn adnabyddus gan gyflogwyr, yn golygu bod myfyrwyr yn gallu manteisio ar gyfleoedd yn Llundain ac mewn lleoliadau rhyngwladol mawr eraill. Yr haf hwn, gwnaeth llawer o'n myfyrwyr sicrhau interniaethau mewn cwmnïau morgludiant, y gyfraith a thechnoleg, ac mae nifer ohonynt eisoes wedi cael cynnig cyflogaeth cyn hyd yn oed gyflwyno eu prosiectau LLM terfynol.

I ddathlu eu cyflawniadau a'u hannog ar ddiwedd Rhan 1 o'u hastudiaethau, rydym yn darparu tystysgrifau i'r rhai sy'n berfformwyr gorau yn eu dosbarth. Cyflwynwyd y tystysgrifau ar ôl y Bwrdd Arholi eleni i'r myfyrwyr canlynol mewn seremoni gan yr Athro Baughen, yr Athro Soyer a Dr Kurtz-Shefford:

  • Prachi Agarwal
  • Alexandros Papazios
  • Layesh Premraj
  • Md Nazmus Sakib
  • Megan Joseph
  • MaryAnn Nnamani
  • Williams Nwinee
  • Otu Ukoyen
  • Farah Binti Mahadi
  • Oluwafemi Adenitire

Hoffem longyfarch pob un ohonynt unwaith eto ac rydym i gyd yn gobeithio y bydd eu llwyddiant yn parhau yn rhan 2 o'u hastudiaethau LLM.

Rhannu'r stori