Daeth y Gystadleuaeth Dadlau mewn Ffug Lys Barn Cymrodeddu Cyfraith Forwrol Ryngwladol (IMLAM) 2023, a gynhaliwyd gan y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL), i ben gyda rownd derfynol wych yn Trinity House, Llundain.

Ymysg awyrgylch godidog yr adeilad hanesyddol, bu dau dîm dadlau mewn ffug lys barn o Brifysgol Queensland a Phrifysgol Sydney yn brwydro'n ffyrnig gerbron panel o feirniaid elît;  Meistr Ustus Andrew Baker (Barnwr y Morlys, Uchel Lys), Simon Rainey CB (Quadrant Chambers) a Mr Paul Dean (Pennaeth Byd-eang Morgludiant, HFW). Ar ôl awr o ddadlau o'r radd flaenaf, Prifysgol Queensland (Lauren Gunther a William Garske) oedd yr enillwyr.

Roedd llawer o elfennau cadarnhaol i'r gystadleuaeth; dyfarnwyd Gwobr 'Ysbryd y Ddadl' i dîm dadlau mewn ffug lys barn o Brifysgol Tehran. Yn yr un modd, dyfarnwyr 'y Siaradwr Gorau' i Natasha Nicholson o Brifysgol Northumbria gan dîm a oedd yn cystadlu am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth, ac enillodd Prifysgol Hong Kong y wobr am y 'Memoranda Gorau’.

Mae pawb yn Abertawe'n estyn eu llongyfarchiadau i dimau dadlau mewn ffug lys barn rhagorol a gyrhaeddodd y rownd gogynderfynol ar ôl rowndiau cychwynnol dwys iawn: sef Universidad Carlos III de Madrid, Prifysgol Reolaeth Singapore, Prifysgol Indonesia, Prifysgol Hong Kong, Prifysgol Genedlaethol Gollewin Bengal y Gwyddorau Cyfreithyddol.

Yn y seremoni derfynol, ar ran y Pwyllgor Trefnu, cyhoeddwyd gan Mr David Goodwin, y byddai cystadleuaeth y flwyddyn nesaf yn cael ei chynnal eto yn Abertawe. Mae'r ffaith nad yw unrhyw brifysgol wedi cael yr anrhydedd o gynnal y digwyddiad ddwy flynedd yn olynol yn adlewyrchiad gwych o'r rôl flaenllaw sydd gan Abertawe mewn addysg forol gyfreithiol, ac mae'n deyrnged i Matthew Parry am gynnal y digwyddiad hwn gyda chymaint o broffesiynoliaeth a hiwmor.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, meddai'r Athro Soyer, (Cyfarwyddwr yr IISTL): 

"Ar ran IISTL, hoffem ddiolch i'r holl feirniaid o ymarfer cyfreithiol, y byd academaidd a'r byd diogelu ac indemnio, a roddodd eu hamser i gyfrannu at ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr morwrol!

"Ac wrth gwrs, unwaith eto rhaid talu teyrnged i'n holl gefnogwyr: HFW (ar gyfer y noddi hael), HST Marine, Grŵp Rhyngwladol Clybiau Diogelu ac Indemnio, WISTA UK, a'n partneriaid gwybodaeth i-law.

Roedd y digwyddiad yn achlysur gwych a ddaeth â thimau o 9 gwlad wahanol i Abertawe, a chafwyd amgylchedd gwych i ddatblygu sgiliau eirioli'r rhai hynny a gymerodd ran a chafwyd cyfleoedd rhwydweithio gydag ymarferwyr morwrol.  Bydd hi'n bleser croesawu pawb yn ôl i Abertawe fis Gorffennaf nesaf, a chynrychioli'r DU yn yr arena ryngwladol!"  

Rhannu'r stori