Mae'r Adran Droseddeg yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton wedi ennill Gwobr Flynyddol Cymdeithas Droseddeg Prydain am Ragoriaeth mewn Addysgu Troseddeg.

Mae'r Gymdeithas yn dyfarnu'r Wobr Genedlaethol am Ragoriaeth mewn Addysgu Troseddeg er mwyn amlygu a dathlu'r arfer gorau ym maes addysgu troseddeg mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU a chaiff ei harwain gan Rwydwaith Dysgu ac Addysgu Cymdeithas Droseddeg Prydain. Mae meini prawf enwebu'r wobr hon yn seiliedig ar Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU ar gyfer addysgu a chefnogi dysgu.

Thema cyflwyniad yr Adran Droseddeg oedd gwreiddio cyflogadwyedd a datblygiad proffesiynol yn y cwricwlwm israddedig. Roedd y beirniaid o'r farn bod hwn yn enwebiad ardderchog, a amlygodd yr ymdrechion parhaus i wreiddio cyflogadwyedd ac yn enghraifft drawiadol o ail-gynllunio a datblygu cwricwlwm.

Mae sgiliau cyflogadwyedd yn elfen graidd o bob rhan o gwricwlwm yr Adran a cheir modiwlau arbenigol megis Cyflogadwyedd a Datblygiad  Personol ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Cyfiawnder Cymdeithasol. Mae cydweithwyr sy'n arbenigo mewn cyflogadwyedd wrth law i gynorthwyo wrth addysgu’r modiwlau a'u nod yw paratoi graddedigion yr Adran ar gyfer byd gwaith.

Yn ogystal, mae'r Adran yn mabwysiadu amrywiaeth o ddulliau asesu megis flogiau/blogiau, adroddiadau, cyflwyniadau, posteri, traethodau a phapurau briffio sy'n ddilys ac yn cynnig cyfle i ddysgu sgiliau trosglwyddadwy ychwanegol heb y straen sy'n gysylltiedig â nifer mawr o arholiadau traddodiadol.

Cynhaliodd Cymdeithas Droseddeg Prydain ei Chynhadledd Flynyddol rhwng 7 a 9 Gorffennaf a chyflwynwyd y wobr yn ystod y digwyddiad. Casglwyd y wobr ar ran yr Adran Droseddeg gan yr Athro Tracey Sagar, yr Athro Cysylltiol Debbie Jones, Dr Jon Burnett a Joe Janes.

Wrth siarad am arwyddocâd y wobr i'r Adran Droseddeg, meddai'r Athro Tracey Sagar a'r Athro Cysylltiol Debbie Jones:

"Mae'n bleser mawr gennym dderbyn y wobr hon sy'n dathlu ymdrechion parhaus yr Adran Droseddeg ym Mhrifysgol Abertawe i addysgu sgiliau trosglwyddadwy i'n myfyrwyr i'w paratoi am y gweithle. Gan weithio gyda'n myfyrwyr, rydym wedi adeiladu portffolio addysgu cryf sy'n cynnig dealltwriaeth gyfoes a beirniadol, wedi'i llywio gan ymchwil, o droseddu a'r system cyfiawnder troseddol, yn ogystal â darparu cyfleoedd i feithrin amrywiaeth eang o sgiliau newydd yn ystod y rhaglen radd tair blynedd."

I gael rhagor o wybodaeth am y graddau troseddeg israddedig sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe, dilynwch y dolenni:

Rhannu'r stori