Mae'r Fforwm Rhyngrwyd Byd-eang i Atal Terfysgaeth (GIFCT) wedi penodi Pwyllgor Ymgynghorol Annibynnol yn rhan o strwythur sefydliadol newydd a chanddo 21 aelod, gan gynnwys cynrychiolwyr saith llywodraeth genedlaethol, dau sefydliad rhyngwladol, a 12 sefydliad cymdeithas sifil sy'n cynrychioli amrywiaeth eang o arbenigedd.

Mae cynrychiolwyr llywodraethau Canada, Ffrainc, Ghana, Japan, Seland Newydd, y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau yn gwasanaethu ar y cyd ag aelodau o'r UE a Chyfarwyddiaeth Gwrthderfysgaeth y Cenhedloedd Unedig. O'r 12 aelod arall sy'n cynrychioli sefydliadau cymdeithas sifil, mae chwech yn dod o brifysgolion, ac yn eu plith y mae J. M. Berger, ymchwilydd yn y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC) ym Mhrifysgol Abertawe. 

Mae meysydd ymchwil arbenigol Berger yn cynnwys CVE (Common Vulnerabilities and Exposures), eithafiaeth, ideolegau eithafol, y cyfryngau cymdeithasol, terfysgaeth a thrais.

Wrth siarad am ei benodiad, meddai J. M. Berger:

"Mae gormod o'n mentrau gwrthderfysgaeth a CVE ar-lein yn ymateb i benawdau a'u nod pennaf yw dod o hyd i ateb sydyn i broblemau penodol wrth iddynt ddod yn amlwg i'r cyhoedd.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Phwyllgor Ymgynghorol Annibynnol  GIFCT i annog atebolrwydd, goruchwyliaeth a gweithredu strategaethau sy'n mynd i'r afael â her eithafiaeth mewn ffyrdd sy'n rhagweithiol, yn hir dymor ac yn rhoi egwyddorion yn gyntaf".

Cefnogir gwaith y Pwyllgor Ymgynghorol Annibynnol gan chwe gweithgor thematig a chanddynt tua 20-25 aelod yr un. Mae'r aelodau hyn yn cynrychioli'r diwydiant technoleg, llywodraethau cenedlaethol a sefydliadau rhynglywodraethol a sefydliadau cymdeithas sifil.

Mae cynrychiolwyr o Brifysgol Abertawe a CYTREC yn aelodau o dri o’r grwpiau hyn. Mae Dr Lizz Pearson a'r Athro Maura Conway yn aelodau o'r grŵp ymchwil academaidd ac ymarferol; mae Joe Whittaker yn aelod o'r grŵp algorithmau rhannu cynnwys, prosesau ac ymyriadau cadarnhaol; ac mae Cyfarwyddwr CYTREC, yr Athro Stuart Macdonald, yn cynrychioli Prifysgol Abertawe ar y grŵp tryloywder.

Meddai Cyfarwyddwr CYTREC, yr Athro Stuart Macdonald:

“Rwyf wrth fy modd y bydd gan aelodau o'r Ganolfan Ymchwil Seiberfygythiadau y cyfle hwn i gyfrannu at waith  GIFCT.

"Rydym yn rhannu ymrwymiad GIFCT at ymagwedd aml-randdeiliad ac edrychwn ymlaen at hyrwyddo pwysigrwydd y polisïau ar sail tystiolaeth sy'n effeithiol ac yn parchu hawliau dynol ar yr un pryd."

Rhwng y Pwyllgor Ymgynghorol Annibynnol a'r gweithgorau, mae pum ymchwilydd o CYTREC ym Mhrifysgol Abertawe bellach yn cyfrannu at ymdrech aml-randdeiliad GIFCT i fynd i'r afael â defnydd terfysgwyr o blatfformau digidol.

Rhannu'r stori